Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Ni ddylem fod yn fodlon â chyfraddau coronafeirws mewn unrhyw ran o'r wlad. Fe'n hanogir yn rheolaidd i wrando ar amrywiaeth o bobl, rhywbeth y cyfeiriodd siaradwyr eraill ato. Rwy'n credu y dylai pobl wrando ar Dave ac ar Lisa, yr ymgynghorydd gofal critigol a'r nyrs arweiniol a siaradodd ar newyddion Channel 4 neithiwr am y sefyllfa yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Rhan o'r hyn y mae'n rhaid inni berswadio ein gwlad i'w wneud yw helpu ein GIG i'n helpu ni. Mae hynny'n ymwneud â newid ymddygiad, byw ein bywydau'n wahanol, a chydnabod nad yw'n fater o'r effaith ar nifer y gwelyau sy'n cael eu llenwi gan gleifion coronafeirws yn unig, mae'n ymwneud â'r effaith uniongyrchol ar ein staff, yr hyn y maent wedi mynd drwyddo eleni, a'r effaith a gaiff hynny arnynt hwy a'u parodrwydd a'u gallu i barhau i'n gwasanaethu am flynyddoedd yn y dyfodol.
Nid wyf am roi sylw difrifol i'r sylwadau mewn Senedd ddemocrataidd am y Llywodraeth yn gweithredu fel unbennaeth; mae rhywfaint o eironi yno nad wyf yn credu bod y rhai a grybwyllodd y gair yn ei ddeall fel y cyfryw.
O ran targedu'r cyfyngiadau symud—y sylwadau a wnaeth Angela Burns—a bod yn deg, ar ôl iddi adael y briff iechyd, mae'r Ceidwadwyr wedi gwrthwynebu'n fras y mesurau rydym wedi'u cyflwyno ac wrth gwrs, cyngor y grŵp cynghori technegol ar fesurau cenedlaethol. A gallaf ddweud bod y cydbwysedd rhwng bywydau a bywoliaeth pobl yn parhau i fod yn sail i'n dull o weithredu. Dylwn ddweud bod Andrew R.T. Davies wedi cyfeirio at gael un sesiwn friffio iddo ef a Rhun ap Iorwerth fel llefarwyr; rwyf wedi darparu sesiynau briffio rheolaidd i'r pwyllgor iechyd ers peth amser bellach, ac mae'n ffaith bod Andrew R.T. Davies wedi dewis peidio â mynychu mwy na hanner y sesiynau briffio hynny. Prin y gall gwyno am beidio â chael mynediad at wybodaeth gennyf fi, y prif gynghorydd gwyddonol a'r prif swyddog meddygol os yw'n dewis peidio â bod yn bresennol. I fod yn deg â Rhun ap Iorwerth a Dai Lloyd ac aelodau eraill o'r pwyllgor, maent yn mynychu ac yn cymryd rhan yn y sesiynau briffio hynny'n rheolaidd.
Rwy'n falch fod Dai Lloyd wedi sôn am elfen economaidd-gymdeithasol COVID—mae hynny'n wir iawn. Mae'n fater o ffaith bod gennym, dros y mis diwethaf, gyfraddau marwolaethau ychwanegol uwch yng Nghymru nag yn Lloegr. Mae hynny'n sicr yn wir, ac mae hynny'n sail i ddifrifoldeb ein safbwynt a pham ein bod yn gweithredu a pham y gallai fod angen inni roi mwy o gamau ar waith yn y dyfodol. Ond mewn gwirionedd, yn ystod y pandemig hwn, byddech wedi disgwyl i Gymru fod wedi cael cyfraddau marwolaeth uwch na Lloegr oherwydd, o'i chymharu â Lloegr gyfan, mae Cymru'n hŷn, yn dlotach ac yn fwy sâl—pethau sydd oll yn ffactorau arwyddocaol yn y marwolaethau COVID. Ac eto, mewn cyfraddau marwolaethau ychwanegol yn ystod y pandemig, ceir gwahaniaeth sylweddol, gyda Chymru â chyfradd marwolaethau ychwanegol is na Lloegr, a dyna realiti holl gwrs y pandemig hwn. Ac unwaith eto, rhan o'r rheswm dros weithredu yw sicrhau nad oes gennym lanw cynyddol o farwolaethau ychwanegol dros aeaf hir ac anodd.
Teimlwn fod y sylwadau gan David Rowlands yn beryglus, yn anghyfrifol, ac roedd bron bob ffaith neu honiad a wnaeth yn anghywir. Un o'r rhai allweddol i dynnu sylw ati yw bod COVID yn llawer mwy marwol na'r ffliw, ac mae honiadau i'r gwrthwyneb yn gwbl anghywir.
Rwy'n croesawu sylwadau difrifol at ei gilydd Suzy Davies a Nick Ramsay. Nid oes atebion hawdd, fel y soniodd Nick Ramsay. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrando ar gyngor arbenigol ac yna'n penderfynu, fel rydym ni wedi'i wneud. Rydym wedi cyhoeddi tystiolaeth y grŵp cynghori technegol, a dylid ystyried honno ac nid ei diystyru. O ran y dystiolaeth a gawn, daw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, pob cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus a'n prif swyddogion meddygol a'r grŵp cynghori technegol ei hun.
Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaeth Huw Irranca-Davies am y dadansoddiad a'r marwolaethau y gellir eu hatal. Gwn ei fod yn siarad fel rhywun sy'n gyn-drwyddedai, felly rhywun sy'n deall llawer am y fasnach a'r sefyllfa anodd y mae llawer o bobl ynddi. Rydym yn gwneud mwy—a Ken Skates, yn gwneud mwy—am y gwaith rydym yn ei wneud i gael taliadau awtomatig, ar y cyd â'r Gweinidog llywodraeth leol, ac mae trefniadau ar waith i wneud hynny. Roeddwn yn meddwl ei fod yn bwynt arbennig o isel yn y ddadl pan ddewisodd Darren Millar fod yn bersonol sarhaus wrth Ken Skates, sy'n gweithio'n eithriadol o galed, fel y mae Gweinidogion eraill, yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
Dylwn dynnu tua'r terfyn, Lywydd, oherwydd er bod yr Aelodau i gyd wedi cael gwneud cyfraniadau, rwy'n credu ei bod yn deg dweud na fydd neb yn y Senedd, ar unrhyw ochr i'r ddadl hon, yn croesawu'r cyfyngiadau newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith, gan gynnwys y rhai ar y sector lletygarwch. Mae'r cyfyngiadau'n dangos yr hyn roeddem i gyd yn ei ofni: na fydd y cyfnod cyn y Nadolig eleni yn normal. Mae hwn yn benderfyniad anodd iawn, ond rwy'n glir mai cyflwyno'r cyfyngiadau newydd hyn oedd y penderfyniad cywir. Nid yw'n benderfyniad rwyf fi nac unrhyw Weinidog arall wedi'i fwynhau ar unrhyw adeg, oherwydd rydym yn deall yr effaith, ond mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod ymateb i gynnydd yn nifer yr achosion mewn ffordd y mae SAGE yn ei hargymell yn glir, yn seiliedig ar ystyriaeth o'r dull yn Lloegr a'r Alban o'r hyn sydd wedi gweithio mewn gwirionedd. Ac wrth ailystyried y difrifoldeb, gadewch i ni atgoffa ein hunain eto: y gyfradd heddiw yng Nghymru yw 348 ym mhob 100,000. Mae 400 yn fwy o welyau yn ein gwasanaeth iechyd gwladol yn trin pobl â'r coronafeirws o gymharu ag uchafbwynt mis Ebrill.
Gwn y bydd y cyfyngiadau ar fusnesau'n achosi niwed a rhwystredigaeth, ac fel Gweinidog iechyd, gwn fod y niwed hwnnw'n real iawn, ac nid wyf byth yn anghofio'r realiti y bydd niwed economaidd yn arwain at niwed i iechyd. Dywedodd Angela Burns efallai na fydd busnesau'n dod yn ôl, ac mae hi'n iawn. Fodd bynnag, y cydbwysedd y mae'n rhaid inni ei daro yw'r realiti mai'r cyngor clir a gawn yw y bydd llawer o fywydau'n cael eu colli os na fyddwn yn gweithredu, bywydau nad oes angen eu colli, bywydau na allwn eu cael yn ôl, yn wahanol i fusnesau.
Rydym yn ystyried yn rheolaidd ac yn agored beth fydd effaith pob un o'n cyfyngiadau ar wahanol bobl—nid yn yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yn unig y gwnawn hynny, ond o ran yr ystod o bobl a gweithgareddau, a'r ymyrraeth a wnawn ym mywydau pobl. Daw niwed ynghlwm wrth bob dewis. Rhaid i Weinidogion ddewis, fel y mae'n rhaid i'r Senedd ddewis—ac fe ddof i ben yma, Lywydd—ac rwy'n meddwl yn arbennig o ofalus am sylwadau Alun Davies am deimlo pwysau'r cyfrifoldeb ar ei ysgwyddau fel Aelod o'r Senedd hon, a gallaf ddweud wrthych fod hwnnw'n bwysau y mae pob Gweinidog yn y Llywodraeth hon yn ei deimlo wrth ddeall effaith y dewisiadau a wnawn ar y bywydau rydym yn ceisio eu hachub, a cheisiwn berswadio pobl i ymddwyn yn wahanol. Wrth i'r brechlyn ddod ar gael i helpu i achub bywydau ac i ddiogelu pobl, dylai'r amser y bydd hynny'n ei gymryd gryfhau ein hymrwymiad cyfunol ledled y wlad i wneud yr hyn y dylem ei wneud i gadw ein hunain a'n gilydd yn ddiogel drwy'r cyfan y dylem ei wneud i gadw Cymru'n ddiogel. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r Llywodraeth heddiw.