Part of the debate – Senedd Cymru am 5:55 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Rwyf am fynd i'r afael â'r materion sy'n wynebu'r sector lletygarwch, yn benodol y cau am 6 p.m. a gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai a chlybiau a bwytai, gan wybod, a dweud y gwir, eu bod wedi bod i uffern ac yn ôl eleni. Cawsant eu cau yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, yna fe wnaethant ailagor ac roeddent yn gweithio yn ôl rheoliadau newydd, fe wnaethant fuddsoddi mewn mesurau diogelwch COVID a chyfarpar diogelu personol a mannau awyr agored newydd, ac yna fe wnaethant gau eto yn ystod y cyfnod atal byr yn yr hydref ac mae llawer ohonynt ar gau i bob pwrpas ar hyn o bryd. Felly, mae eu pryderon yn real ac yn ddealladwy, a rhaid eu cyfleu yn Siambr y Senedd heddiw.
Ond dylid cyfleu'r rhesymau sy'n sail i'r mesurau llym hyn hefyd a'r risg i fywydau ac i'n GIG hebddynt. O heddiw ymlaen, mae gan Gastell-nedd Port Talbot, yr etholaeth sy'n ffinio â fy etholaeth i, 693 o achosion ym mhob 100,000 yn ystod yr wythnos ddiwethaf; dyma'r uchaf yng Nghymru. Mae'r sir hefyd yn un o'r pedair ardal cyngor sydd â chyfradd uwch na 20 y cant o achosion positif. Ond mae 11 awdurdod lleol arall, o Geredigion i Sir Fynwy, hefyd â chyfradd uwch nag erioed o achosion positif. Mae 21 o'r 22 awdurdod lleol yn codi'n beryglus, a Chaerau—Caerau fach ger fy nghartref ym Maesteg—sydd â'r gyfradd uchaf o achosion lleol, bron 1,780 ym mhob 100,000 am y saith diwrnod diwethaf, a 126 o achosion. Ac mae sir ehangach Pen-y-bont ar Ogwr yr oedd Suzy yn sôn amdani hefyd wedi cyrraedd ei chyfradd uchaf o achosion.
Ddydd Mawrth, dywedodd cynghorwyr Llywodraeth Cymru fod nifer y bobl yng Nghymru a oedd yn marw gyda'r feirws yn uwch na'r hyn a oedd ganddynt fel senario waethaf. Felly, mae'n ddyletswydd ar bob cynrychiolydd etholedig cyfrifol yn y Siambr hon i ymgodymu'n onest â'r dystiolaeth wyddonol a meddygol, i beidio â chwarae i'r oriel boblyddol, ac i fod yr un mor benderfynol a difrifol ynghylch diogelu bywydau eu hetholwyr yn ogystal â'u bywoliaeth. Ac mae'n rhaid i bob Aelod yma, gan gynnwys Aelodau'r gwrthbleidiau, gydnabod bod y cyngor a roddir i Weinidogion gan SAGE a chan y gell cyngor technegol a chan y prif gynghorwyr meddygol a gwyddonol yn llwm—y byddai unrhyw beth llai na'r mesurau sydd bellach ar waith yn arwain at berygl o golli rhwng 1,000 a 1,700 o fywydau.
Marwolaethau y gellir eu hatal yw'r rhain, marwolaethau diangen, marwolaethau ein hetholwyr, ein cymdogion, ein teuluoedd a'n ffrindiau. Felly, pa un ohonom sy'n barod i fynd yn ôl at ein hetholwyr, sydd hefyd wedi bod i uffern ac yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf, a dweud yr anwybyddwn y cyngor meddygol a gwyddonol a pheryglu eu bywydau, a chysgu'n sownd wedyn ar ôl gwneud hynny? Nid tafarndai a chlybiau ac adeiladau trwyddedig yw'r unig fannau lle ceir risg wrth gwrs, ac nid yw atal gwerthu alcohol ar ei ben ei hun yn ateb hud. Ond nid dim ond model neu ragolwg o'r hyn a allai ddigwydd yw'r dadansoddiad a ddogfennwyd o'r risg o drosglwyddo yn y sector lletygarwch, dadansoddiad sydd ar gael i'r cyhoedd—mae'n archwilio'r hyn sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n dweud yn hollol glir, ac rwy'n dyfynnu,
Y darlun cyffredinol yn y DU (a thramor) yw na fu modd cael R o dan 1 yn gyson heblaw mewn mannau lle bu cyfyngiadau sylweddol ar letygarwch. Canfu dadansoddiad SAGE o haenau, cyfnodau atal byr ac ymyriadau eraill ym mhedair gwlad y DU fod epidemigau'n crebachu ym mhob ardal sy'n ddarostyngedig i Haen 3/3+ yn Lloegr neu gyda'r cyfyngiadau cenedlaethol yng Ngogledd Iwerddon. Dilynwyd pob ymyrraeth arall gan ddarlun mwy cymysg.
Yn ogystal, mae dadansoddiad gwyddonol manwl ar wahân o'r gwahanol ymyriadau ym mhedair gwlad a rhanbarth y DU dros gyfnod yr hydref yn dangos eto pa mor effeithiol yw'r mesurau llym yn unig wrth fynd i'r afael â thwf a lledaeniad y feirws. A hyn er gwaethaf yr ymdrechion anhygoel sy'n cael eu gwneud gan gynifer yn y sector trwyddedig i wneud eu lleoliadau'n ddiogel rhag COVID. Yn anffodus, mae'r dystiolaeth yn dangos bod lleoliadau lletygarwch, a'r ymddygiad cyhoeddus sydd weithiau'n deillio o alcohol yn y lleoliadau hyn, yn cyfrannu at y risg uwch o drosglwyddo.
Weinidog, mae fy nhafarndai a fy nghlybiau a fy mwytai eisiau gwybod mwy yn awr am y cymorth sydd ar gael iddynt, gan gydnabod bod graddau'r cymorth yng Nghymru, ar £340 miliwn, ymhell y tu hwnt i'r swm o £40 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth San Steffan ar gyfer Lloegr gyfan. Maent am wybod: pa mor gyflym y gellir talu'r arian hwn? Pa mor syml y gellir gwneud y gweithdrefnau ar eu cyfer? Pa gymorth y gellir ei roi iddynt i nodi'r ffrwd ariannu gywir ac i lenwi'r ffurflenni ar-lein angenrheidiol? A ydynt yn cael apelio os cânt eu gwrthod neu os ydynt yn gwneud camgymeriad syml? A fydd mwy o gymorth ariannol ar gael ar gyfer costau trwyddedu neu ardrethi busnes? Weinidog, beth arall y gellir ei wneud i helpu'r busnesau hyn i ddod trwy'r argyfwng?
Ac yn olaf, a gaf fi dalu teyrnged i'r tafarndai a'r clybiau a'r bwytai, yn fy ardal i ac yng Nghymru, sydd wedi gwneud eu gorau glas i weithredu eu busnesau'n ddiogel a chadw swyddi i fynd er gwaethaf y feirws? Gofynnaf i Lywodraeth Cymru barhau i roi pob mesur posibl ar waith i gefnogi'r sector fel bod y swyddi a'r busnesau hyn yn dal yno pan fyddwn wedi troi'r llanw ar y feirws hwn a gallwn gyfarfod eto, cyn gynted â phosibl, dros beint—neu efallai fwy na hynny.