Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
A gaf fi ddiolch i chi am fy ngalw, Ddirprwy Lywydd? Er na allwn fynd yn ôl, roedd caniatáu i Ŵyl Cheltenham a Lerpwl yn erbyn Atlético Madrid fynd yn eu blaen yn gynharach eleni yn gamgymeriad difrifol iawn gan Lywodraeth San Steffan, a fyddai wedi arwain at ymddiswyddiadau gweinidogol mewn cyfnod gwleidyddol arferol. Rwy'n mynd i ddyfynnu o bapur a adolygwyd gan gymheiriaid yn The Lancet:
Mae syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2) yn achosi COVID-19 ac mae'n cael ei ledaenu o berson i berson drwy gysylltiad agos... Mae canfyddiadau'r adolygiad a'r meta-ddadansoddiad systematig hwn yn cefnogi mesurau cadw pellter corfforol o 1m neu fwy ac yn darparu amcangyfrifon meintiol ar gyfer modelau ac olrhain cysylltiadau i lywio polisi. Dylai'r defnydd gorau posibl o fasgiau wyneb... yn gyhoeddus... gael ei lywio gan y canfyddiadau a'r ffactorau cyd-destunol hyn.
Dangosodd y canfyddiadau ostyngiad yn y risg o 82 y cant gyda phellter corfforol o 1m mewn lleoliadau gofal iechyd a chymunedol. Mae pob metr ychwanegol o ymwahaniad yn mwy na dyblu'r diogelwch cymharol. Mae'r dystiolaeth hon yn bwysig i gefnogi canllawiau cadw pellter corfforol yn y gymuned ac mae'n dangos bod lleihau risg yn ymarferol drwy fesurau cadw pellter corfforol.
Yn y bôn, pe bai pawb yn cadw 2m o bellter, yn gwisgo masgiau mewn siopau a mannau eraill lle dônt i gysylltiad posibl ag eraill, yn golchi eu dwylo ac yn diheintio'n rheolaidd, byddai cynnydd sylweddol yn cael ei wneud tuag at ddileu'r feirws hwn. Pe bai pobl yn hunanynysu pan ddywedir wrthynt am wneud hynny, unwaith eto byddai cynnydd yn cael ei wneud. Rydym yn gweld y gwrthwyneb. Mae'r gyfradd heintio, yn enwedig ymhlith pobl iau, yn cynyddu, ac felly hefyd y gyfradd farwolaethau, yn anffodus. Er y bydd rhai o'r Ceidwadwyr yn anghytuno â mi, credaf fod pob marwolaeth gynamserol a achosir gan COVID yn drasiedi. Un o anawsterau COVID-19 yw ei fod yn effeithio ar bobl yn wahanol, o beidio â chael unrhyw symptomau o gwbl i salwch difrifol a marwolaeth.
Ble mae pobl yn ymgynnull yn agos am gyfnod hir? Yn gyntaf, yn y gweithle, ac er bod Llywodraeth Cymru yn cynghori pobl i weithio gartref os yw'n bosibl, nid yw pob cyflogwr yn gadael i'w staff wneud hynny. Yn ôl yr Evening Post, heintiwyd nifer fawr o weithwyr y DVLA yn Abertawe. Mae rhai'n mynd yn sâl oherwydd straen; maent yn honni nad yw mesurau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn ar y safle. Nid yw'r gegin a'r ystafelloedd ymolchi a rennir yn cael eu glanhau'n ddwfn ar ôl i achos gael ei nodi, dim ond eu glanhau. Y mis diwethaf, roedd mwy na 40 o weithwyr yn hunanynysu yn y DVLA ar ôl i gydweithwyr brofi'n bositif am coronafeirws. Cefais bump o bobl yn ffonio fy swyddfa ddoe, nifer ohonynt yn eu dagrau, yn ofni mynd i'r gwaith ac yn ofni colli eu swydd yn y DVLA. Sefydliad y Llywodraeth yw hwn, er nad yw'n un o sefydliadau Llywodraeth Cymru. Os na allwn gadw pobl yn ddiogel mewn sefydliadau sy'n cael eu rhedeg gan y Llywodraeth, pa obaith sydd gennym gyda'r sector preifat?
Rwyf hefyd wedi cael cwynion gan bobl sy'n gweithio mewn canolfannau galwadau, cwmnïau cludo nwyddau, a nifer o unedau gweithgynhyrchu, lle mae pobl yn gweithio o fewn metr i'w gilydd, lle nad yw masgiau'n cael eu gwisgo. Mae hyn yn rhoi pobl mewn perygl. Rwy'n teimlo dros y bobl hyn. Fel y dywedodd un fenyw a ffoniodd ddoe wrthyf, 'Mae gennyf ddau ddewis: gallaf naill ai golli fy swydd neu beryglu fy mywyd'. Ac rwy'n credu bod honno'n sefyllfa drist iawn rydym yn rhoi pobl ynddi, neu'n caniatáu i bobl gael eu rhoi ynddi.
Yn ail, ysgolion. Pwy sy'n cofio pan oedd y cyngor gwyddonol yn dweud nad oedd plant dan 11 oed yn gallu cael COVID? Mae ysgolion yn sicr yn cael achosion, gan gynnwys dosbarthiadau meithrin a derbyn. A gaf fi ymuno â'r rhai sy'n gofyn i ysgolion gau wythnos ynghynt, pe bai ond i amddiffyn perthnasau hŷn dros y Nadolig?
Y trydydd maes yw lletygarwch. Dyna'r maes y mae'r Llywodraeth yn ei gau, a gallaf ddeall pam. Ond os yw'r sector a reoleiddir—h.y. pobl sy'n yfed mewn tafarndai a chlybiau—ar gau, beth fydd yn cael ei wneud am gynulliadau heb eu rheoleiddio? Sut y gellir atal hynny?
Y pedwerydd maes yw cynulliadau ar y stryd y mae pobl ifanc yn bennaf yn cymryd rhan ynddynt. Bydd llawer o'r rhain yn asymptomatig ond gallant drosglwyddo COVID i eraill.
Mae gennyf nifer o geisiadau: cau ysgolion wythnos yn gynnar; ailagor tafarndai a bwytai cyn gynted â phosibl, ond bod unrhyw un sy'n torri rheolau diogelwch yn cael eu cau am o leiaf fis; pennu uchafswm sy'n cael ymgynnull ar strydoedd a gwasgaru niferoedd mwy; gweithio gyda Llywodraeth San Steffan i orfodi gweithwyr y sector cyhoeddus i weithio gartref os oes modd; gweithio gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ymweld â chwmnïau sector preifat lle mae pryderon yn cael eu mynegi; ac yn olaf, dal ati i hyrwyddo'r 2m, golchi dwylo a diheintio, a gwisgo masg. Rhaid ichi barhau i wneud hynny. Pan fydd y Llywodraeth yn rhoi'r gorau i'w ddweud, mae pobl yn meddwl nad oes raid iddynt wneud hynny mwyach. Ni allwch ddweud hynny'n rhy aml. A gaf fi annog y Llywodraeth i barhau i gyfleu'r neges honno? Oherwydd mae yna bobl sydd heb ei chlywed ers wythnos neu bythefnos sydd bellach yn meddwl bod y neges honno wedi mynd.
Rydym mewn sefyllfa wirioneddol anodd. Byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth oherwydd maent yn mynd i'r afael ag un o'r pethau sy'n achosi trosglwyddiad, ond a gawn ni ddechrau ymdrin â chyflogaeth? Yn enwedig cyflogaeth mewn swyddfeydd sector cyhoeddus, lle mae pobl yn aml ddim ond hanner metr ar wahân yn llythrennol.