7. & 8. Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd (Gohiriwyd o 8 Rhagfyr) a Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Coronafeirws — Cyfyngiadau mis Rhagfyr

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:08 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 6:08, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod yn dda ein bod yn cael y ddadl hon o'r diwedd. Un o broblemau'r pandemig yw ein bod yn cael mesurau wedi'u pasio'n gyson gan Lywodraeth Cymru nad ydynt erioed wedi cael eu cymeradwyo gan y Siambr hon. Gwnaeth Caroline Jones y pwynt ein bod ni yma yng Nghymru, yn ein sefydliad datganoledig, ymhell o fod yn ddemocratiaeth, a'n bod yn dod yn unbennaeth etholedig mewn gwirionedd.

Nawr, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am y pwynt hwn yn ei ddatganiad agoriadol. Mesurau brys yw'r rhain, ond rhaid bod rhagdybiaeth ein bod yn trafod yn gyntaf cyn cyflwyno rheolau dadleuol. Ar y pwynt hwnnw, rydym ni ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru yn cefnogi gwelliant 16 Plaid Cymru heddiw. Rydym hefyd yn cefnogi'r rhan fwyaf o bwyntiau'r Ceidwadwyr.

Nawr, ar y mesurau penodol rydym yn eu trafod, nid wyf wedi dweud llawer am y cyfyngiadau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno. Fy mhrif fyrdwn oedd pwysleisio mai dull cydgysylltiedig ledled y DU fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o ymdrin â'r argyfwng cenedlaethol hwn. Byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU arwain hyn, wrth gwrs. Nawr, mae llawer o bobl yng Nghymru yn amau bod y Prif Weinidog yn defnyddio'r pandemig fel ffordd o wthio ei agenda ei hun o blaid datganoli. Mae llawer o bobl y tu allan i'r lle hwn wedi dweud wrthyf eu bod yn credu mai dyma y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud. Nid wyf yn cynnig unrhyw farn i'r bobl hyn, dim ond gwrando. Dywedant wrthyf fod y Prif Weinidog yn benderfynol o wneud pethau'n wahanol yng Nghymru yn syml am ei fod yn cael gwneud hynny. Maent yn awgrymu wrthyf mai'r rheswm am hyn yw ei fod am roi cyhoeddusrwydd a chael mwy o gefnogaeth gyhoeddus i'w ymerodraeth ei hun yma ym mae Caerdydd, ac maent yn dweud wrthyf eu bod wedi cael mwy nag ychydig o lond bol arno.

Ond beth y mae ei benderfyniadau wedi arwain ato mewn gwirionedd? Cymru sydd â'r gyfradd heintio uchaf o bell ffordd o bedair gwlad y DU. Mae'r cyfnod atal byr fel y'i gelwir, y bwriadwyd iddo gynnig achubiaeth i fusnesau a allai obeithio masnachu'n llwyddiannus yn y cyfnod cyn y Nadolig, wedi bod yn fethiant llwyr. Gallai'r cau newydd hwn fod yn hoelen olaf yn yr arch i lawer o dafarndai a bwytai. Yr hyn sy'n waeth yw bod tafarndai wedi gwario miloedd o bunnoedd yn cydymffurfio â rheoliadau blaenorol COVID, ac eto cânt eu gorfodi yn awr i gau eu drysau eto. Mae arnaf ofn fod y syniad y gallant aros ar agor tra'n cael eu gwahardd rhag gweini alcohol yn jôc sâl. Pwynt gwerthu unigryw tafarn yw ei bod yn gwerthu alcohol; os nad yw'n gwneud hynny, prin ei bod yn dafarn. 

Nawr, dywedir wrthym yn ddiddiwedd gan y Prif Weinidog fod yr holl fesurau y mae'n eu cyflwyno yn gorfod digwydd; nid oes unrhyw ddewis arall. Ymddengys bod y Prif Weinidog yn dweud bod unrhyw un sy'n anghytuno naill ai'n siarlatan, yn gelwyddgi neu'n ffŵl. Pan ofynnodd Laura Jones gwestiwn hollol ddilys iddo ddoe, dywedodd fod ei hymddygiad, ac ymddygiad y Ceidwadwyr, yn warthus. Mae'n ymddangos ei fod yn dweud wrthym mai ef yn unig sy'n gwybod beth yw'r ffordd gywir oherwydd mai ef yn unig sy'n gwybod beth yw'r cyngor gwyddonol. Y broblem yw bod y cyngor gwyddonol hwn mor gymhellol fel nad yw hyd yn oed yn ei rannu â ni.

Yr hyn a wyddom o'r ystadegau sydd ar gael yw bod llai na 5 y cant o heintiau COVID yn digwydd mewn tafarndai neu mewn safleoedd lletygarwch; mae llawer mwy yn digwydd mewn archfarchnadoedd mewn gwirionedd. Pe bai'r Prif Weinidog wedi caniatáu i dafarndai barhau i weini cwrw nes cau eu drysau am 6.00, byddai hynny wedi gwneud rhywfaint o synnwyr. Ond mae'r Prif Weinidog yn dweud bod pobl yn dechrau ymddwyn mewn modd mwy diofal ar ôl yfed alcohol. Mae'n ymddangos ei fod yn meddwl bod pobl mewn tafarndai'n gwegian ar eu traed ar ôl peint neu ddau o gwrw. Efallai y dylai ymweld â thafarn un diwrnod fel y gall weld nad yw'r ddelwedd hon sydd ganddo o yfwyr cwrw yn ddarlun cywir mewn gwirionedd.

Nid yw pobl ifanc, a allai fod yn fwy tebygol o fod eisiau parti, yn mynd allan cyn 6 o'r gloch at ei gilydd. Felly, byddai'r mwyafrif llethol o bobl sy'n yfed mewn tafarndai yn y prynhawn yn gwneud hynny'n synhwyrol. Felly, gallem fod wedi caniatáu i dafarndai barhau i weini cwrw yn y prynhawn; mae synnwyr cyffredin yn dweud hynny wrthym, ond nid oes synnwyr cyffredin gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Bydd pobl yn parhau i brynu cwrw mewn archfarchnadoedd a bydd mwy o bobl nawr yn mynd ag alcohol adref ac yn ei yfed mewn lleoliadau preifat, heb reolaeth, sy'n debygol o arwain at gyfradd heintio uwch.

Fel y dywedodd Tim Martin o gadwyn JD Wetherspoon, mae'r Prif Weinidog yn siarad rwtsh. Ble mae'r dystiolaeth? Ble mae'r rhesymeg? Nid yw'n ateb ei feirniaid mewn unrhyw ffordd synhwyrol. Y cyfan mae'n ei ddweud yw ei bod yn gywilyddus ein bod yn codi'r materion hyn; dyna mae bob amser yn ei ddweud. Ond os yw'n gywilyddus ein bod yn codi'r cwestiynau hyn am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, mae llawer iawn o bobl gywilyddus allan yno yng Nghymru sy'n gofyn yr un cwestiynau'n union. Diolch yn fawr iawn.