Part of the debate – Senedd Cymru am 6:13 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Mae trigolion Aberconwy yn iawn i holi sut y mae'n deg fod sir Conwy, gyda chyfradd y 100,000 sydd bron naw gwaith yn is na Chastell-nedd Port Talbot, yn ddarostyngedig i'r un cyfyngiadau gwaharddol. Yn wir, mae gwelliant Darren Millar yn llygad ei le yn tynnu sylw at y ffaith nad yw dull gweithredu ar gyfer Cymru gyfan yn rhesymol nac yn gymesur o ystyried bod COVID yn cylchredeg ar wahanol gyfraddau mewn gwahanol rannau o Gymru.
Nawr, cafwyd ceisiadau am dystiolaeth, a rhaid imi ategu'r sylwadau ynglŷn â pha mor anghwrtais, ymosodol ac amddiffynnol oedd y Prif Weinidog yn ei ymateb i Laura Anne Jones ddoe. Nawr, y dystiolaeth rydym i gyd wedi bod yn gofyn amdani, cawsom ein cyfeirio at y gell cyngor technegol. Mae hon yn eich hysbysu bod niferoedd uchel o achosion yn parhau i gael eu cofnodi yn bennaf mewn cartrefi gofal preswyl ac ysgolion.
Ysgrifennodd y Cynghorydd Sam Rowlands, sydd â'i fys ar y pwls fel arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, at Lywodraeth Cymru, yn esbonio bod:
lledaeniad y feirws rydym yn ei weld ar hyn o bryd yn digwydd drwy drosglwyddiad yn y cartref,
—yr un trosglwyddiad yn y cartref rydych bellach yn ceisio ei gynyddu oherwydd eich bod yn gyrru pobl o fusnesau lletygarwch sy'n cydymffurfio â mesurau COVID ac sy'n cael eu rheoleiddio. Nid yw'r awdurdod lleol na'r gell gyngor wedi cyfeirio at unrhyw dystiolaeth fod niferoedd uchel o ddigwyddiadau'n parhau i ledaenu oherwydd y sector lletygarwch a hamdden. Yn wir, yr hyn y mae'r rheoliadau wedi llwyddo i'w wneud yw gyrru rhai o fy etholwyr a thrigolion eraill Cymru i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i groesi'r ffin i Loegr i fwynhau gwydraid o win neu gwrw gyda'u pryd bwyd. Mae eich camau gweithredu chi'n llenwi pocedi busnesau lletygarwch dros y ffin ac yn gadael ein rhai ni'n wynebu ansicrwydd economaidd difrifol, a phryderon iechyd meddwl posibl. Ddoe, dadleuodd y Prif Weinidog yn ei amddiffyniad fod iechyd a lles a bywoliaeth fy mherchnogion busnes i'w hystyried yn ddibwys ac yn ymylol. Wel, rwy'n gwrthod y farn honno.
Yr wythnos hon, mae Lee Waters AS wedi dweud bod y Cabinet wedi trafod dull gweithredu rhanbarthol—felly, mae rhywfaint o synnwyr yno—gan ystyried lefelau is yng ngogledd-orllewin Cymru a siroedd fel Sir Benfro. Yn ôl yr hyn a ddywed ef hyd yn oed, mae dull rhanbarthol yn parhau'n opsiwn. Mae hefyd wedi'i ddyfynnu yn y cyfryngau yn dweud bod Aelodau Llafur gogledd Cymru, Ken Skates, Lesley Griffiths a Hannah Blythyn yn gofyn cwestiynau ynglŷn â dull rhanbarthol ar gyfer gogledd Cymru drwy'r amser. Felly, mae'n debyg nad yw Llywodraeth Cymru yn fyddar. Felly, a yw'n wir fod eich tri Aelod rhanbarthol yng ngogledd Cymru o bosibl yn cefnogi dull gweithredu haenog rhanbarthol, neu a fyddant yn pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn heddiw?
Mae llythyr digynsail wedi'i lofnodi gan fwy na 150 o fusnesau o bob rhan o ogledd Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod eu busnesau ar draws y rhanbarth wedi buddsoddi cryn dipyn o amser ac arian i wneud eu lleoliadau a'u busnesau yn ddiogel rhag COVID. Mae'r llythyr yn glir fod problemau difrifol gyda'r pecyn cymorth ariannol sy'n cael ei gynnig. Yna cawsom y drafferth gyda'r amseru, gyda Busnes Cymru yn dweud na fydd busnesau'n dechrau cael taliadau drwy gronfa gyfyngiadau'r gronfa cadernid economaidd tan fis Ionawr, ac ni ellir gwneud ceisiadau am gymorth i sectorau penodol y gronfa cadernid economaidd tan ganol mis Ionawr. Mae fy musnesau a busnesau eraill ledled Cymru yn colli arian wrth inni siarad, gan wynebu ansicrwydd a methdaliad o bosibl.
Gwn am un gwesty yn Aberconwy sydd wedi gweld colled net o £490,000 o drosiant ers 1 Hydref. Yn amlwg, dylem i gyd gefnogi'r galwadau i chi sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn modd amserol. Felly, a wnewch chi ddarparu gwybodaeth i'n busnesau fel eu bod yn gwybod beth y gallant ac na allant ei wneud dros gyfnod y Nadolig? Mae gennyf westai ar hyn o bryd lle mae gwesteion yn ffonio i ofyn, 'A gaf fi wydraid o win gyda fy nghinio Nadolig?', ac oherwydd yr ansicrwydd, maent yn canslo'u harchebion nawr. Rhowch rywfaint o gyngor inni, fel y gallant o leiaf wneud y cynlluniau hynny. Eglurwch pam eich bod yn canolbwyntio ar letygarwch, er bod y cyngor a roddwyd i chi'n tynnu sylw at gartrefi gofal preswyl ac ysbytai fel y mannau lle mae niferoedd uchel o achosion yn parhau i gael eu cofnodi.
Mae arnom angen dull lleol sy'n adlewyrchu'r gwahaniaethau enfawr yn y cyfraddau yn ardaloedd yr awdurdodau lleol. Erfyniaf ar bob Aelod i fod yn rhesymol ac i bleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn heddiw. Byddwn yn gofyn i'r Gweinidog ar ran Llywodraeth Cymru: pa mor hyderus ydych chi i ddefnyddio arian trethdalwyr i amddiffyn eich gweithredoedd mewn perthynas â fy awdurdod lleol pe bai adolygiad barnwrol ar ei ffordd? Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.