Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

– Senedd Cymru am 1:25 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:25, 9 Rhagfyr 2020

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu dadl ar yr eitem nesaf o fusnes. Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud hynny'n ffurfiol. 

Cynnig NDM7500 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheolau Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7501 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Yn ffurfiol, felly, y cwestiwn yw: a ddylid atal Rheolau Sefydlog dros dro? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi ei dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.