Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 1:26 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:26, 9 Rhagfyr 2020

Ac felly, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio o'r diwedd, a dwi'n atal y cyfarfod nawr dros dro er mwyn i ni gael paratoi ar gyfer y bleidlais yma. Atal y cyfarfod, felly.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 13:27.

Ailymgynullodd y Senedd am 13:30, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:30, 9 Rhagfyr 2020

Dyma ni'n cyrraedd y bleidlais, felly, ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig. A dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jeremy Miles. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 36 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi cael ei wrthod.

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig: O blaid: 15, Yn erbyn: 36, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Rhif adran 2790 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Ie: 15 ASau

Na: 36 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Absennol: 9 ASau

Absennol: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 1:31, 9 Rhagfyr 2020

Rydyn ni nawr yn cau'r cyfarfod yma, ac fe fyddwn ni'n ailymgynnull ar gyfer gweddill y busnes i'w gwblhau heddiw. Felly, cau'r cyfarfod am nawr a chymryd toriad.

Gorffennodd y trafodaethau ar fusnes cyfarfod dydd Mawrth, 8 Rhagfyr.

Dechreuodd y trafodaethau ar fusnes cyfarfod dydd Mercher, 9 Rhagfyr am 13.40, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.