Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Prynhawn da, Angela. Diolch am y cwestiwn. Roedd cam 3 o'n cronfa cadernid economaidd ar gyfer Cymru yn unig yn cynnwys £100 miliwn o grantiau datblygu busnes gyda'r nod penodol o helpu busnesau i addasu i fywyd ôl-COVID y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ac wrth gwrs, mae £20 miliwn o'r gronfa hon wedi'i glustnodi’n benodol ar gyfer twristiaeth a lletygarwch. Ac rydym hefyd wedi sicrhau bod £340 miliwn arall ar gael trwy gam diweddaraf y gronfa cadernid economaidd i gefnogi busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau newydd i reoliadau COVID-19.