Datblygu Busnesau

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative

1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer datblygu busnesau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56003

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:40, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Angela. Diolch am y cwestiwn. Roedd cam 3 o'n cronfa cadernid economaidd ar gyfer Cymru yn unig yn cynnwys £100 miliwn o grantiau datblygu busnes gyda'r nod penodol o helpu busnesau i addasu i fywyd ôl-COVID y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ac wrth gwrs, mae £20 miliwn o'r gronfa hon wedi'i glustnodi’n benodol ar gyfer twristiaeth a lletygarwch. Ac rydym hefyd wedi sicrhau bod £340 miliwn arall ar gael trwy gam diweddaraf y gronfa cadernid economaidd i gefnogi busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y newidiadau newydd i reoliadau COVID-19.

Photo of Angela Burns Angela Burns Conservative 1:41, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae pawb bob amser yn ddiolchgar am unrhyw arian y gellir ei ddarparu i fusnesau. Ond roeddwn i eisiau gofyn yn benodol i chi  ynglŷn â busnesau nad yw COVID-19 yn effeithio arnynt mewn gwirionedd, ac mae yna lawer o fusnesau yn bodoli sy’n masnachu mewn ffyrdd gwahanol iawn ac sy’n dal i fod angen tyfu, datblygu, prynu safleoedd newydd, cyflogi staff newydd, dechrau rhaglenni hyfforddi, a bûm yn siarad â dau neu dri ohonynt ac maent yn ei chael hi'n anodd cael eu traed tanynt. 

Cyn COVID, wrth gwrs, roedd llwybr clir i mewn i'r Llywodraeth, ffordd glir o allu ymgeisio am grantiau, ffordd glir o allu cysylltu â phobl ynghylch pa wybodaeth oedd ei hangen. Ond wrth gwrs, gyda'r ffocws ar COVID, yr hyn rwy'n ei ofyn i chi mewn gwirionedd yw, a allwch chi roi trosolwg i ni o ba arian sydd ar gael i fusnesau nad yw'r pandemig COVID yn effeithio arnynt? Sut y gallant gael mynediad at staff sy’n amlwg o dan bwysau aruthrol yn ceisio datrys materion COVID? Oherwydd os ydym yn mynd i geisio tyfu ar ôl i hyn ddod i ben, mae angen inni annog y busnesau sy'n gryf nawr i ddod yn gryfach fyth ac i barhau â'u busnes fel arfer. 

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:42, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, a gaf fi ddiolch i Angela Burns am ei chwestiwn atodol? Rwy’n cytuno’n llwyr y dylid rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen i fusnesau nad yw COVID wedi effeithio arnynt, er mwyn iddynt allu ymadfer yn gryf wedi’r pandemig, ac i dyfu, er gwaethaf yr hyn rydym wedi’i wynebu gyda’n gilydd fel gwlad. Mae cefnogaeth 'busnes fel arfer' ar gael i fusnesau gan Busnes Cymru, gan gynnwys y rhaglen twf carlam yn bwysig iawn, a  chyngor a chymorth ar gyfer busnesau newydd, ac felly hefyd y gefnogaeth 'busnes fel arfer' gan Fanc Datblygu Cymru. O fewn y Llywodraeth, rydym hefyd yn gweithredu cronfa dyfodol yr economi, sydd wedi'i chynllunio, os mynnwch, i wefru diwydiannau yfory—y rhai sydd â photensial mawr i dyfu—gan sicrhau bod ein cyllid yn cyd-fynd â'n galwadau i weithredu, gan gynnwys buddsoddi mewn sgiliau, ymchwil a datblygu ac yn hanfodol bwysig wrth gwrs, datgarboneiddio. Ond byddwn yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion cynhwysfawr a nodwyd ganddi am y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau.FootnoteLink