Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiwn cyntaf a manteisio ar y cyfle hwn, gan mai dyma fy sesiwn gwestiynau'r llefarwyr olaf eleni, i ddymuno'r gorau i Russell a phob Aelod yn y Siambr am Nadolig a blwyddyn newydd heddychlon? Ac o ran lletygarwch, rydym yn llwyr gydnabod y sefyllfa hynod o anodd y mae llawer o fusnesau ledled Cymru yn ei hwynebu o ganlyniad i'r niferoedd cynyddol o ddioddefwyr coronafeirws. Ond rydym wedi rhoi pecyn cymorth digynsail ar waith, y mwyaf hael a chynhwysfawr yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, gyda £340 miliwn o gymorth yn benodol ar gyfer busnesau ym maes twristiaeth, lletygarwch a hamdden yn ystod yr wythnosau nesaf.