1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Symudwn at gwestiynau'r llefarwyr yn awr, a'r cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, beth yw asesiad Llywodraeth Cymru o sut y bydd y cyfyngiadau ar y sector lletygarwch mewn perthynas â chyfnod y Nadolig yn effeithio ar economi Cymru?
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiwn cyntaf a manteisio ar y cyfle hwn, gan mai dyma fy sesiwn gwestiynau'r llefarwyr olaf eleni, i ddymuno'r gorau i Russell a phob Aelod yn y Siambr am Nadolig a blwyddyn newydd heddychlon? Ac o ran lletygarwch, rydym yn llwyr gydnabod y sefyllfa hynod o anodd y mae llawer o fusnesau ledled Cymru yn ei hwynebu o ganlyniad i'r niferoedd cynyddol o ddioddefwyr coronafeirws. Ond rydym wedi rhoi pecyn cymorth digynsail ar waith, y mwyaf hael a chynhwysfawr yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, gyda £340 miliwn o gymorth yn benodol ar gyfer busnesau ym maes twristiaeth, lletygarwch a hamdden yn ystod yr wythnosau nesaf.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ac am eich dymuniadau da ar gyfer y Nadolig i bob un ohonom. O'm safbwynt i, Weinidog, mae busnesau wedi gwneud eu gorau glas i gydymffurfio ag unrhyw beth y gofynnwyd iddynt ei wneud er mwyn sicrhau bod eu busnesau'n ddiogel rhag COVID i'w staff a'u cwsmeriaid. Mae rhai busnesau bach wedi gwario miloedd o bunnoedd cyn cyfnod y Nadolig i wneud yn union hynny. Ac i roi rhywfaint o gyd-destun i hyn, mae'r diwydiant yn cyflogi tua 140,000 o bobl gyda degau o filoedd o bobl ychwanegol yn bellach ar hyd y gadwyn gyflenwi. Y realiti, yn anffodus, yw y bydd rhai busnesau bach yn mynd i'r wal os na chodir cyfyngiadau ar 17 Rhagfyr ac os cânt eu hatal rhag masnachu'n ddiogel dros gyfnod y Nadolig. Rwy'n credu mai'r sefyllfa waethaf iddynt hwy yw peidio â gwybod a gânt ailagor ai peidio. Felly, a allwch roi rhywfaint o eglurder yn awr i fusnesau ledled Cymru ynglŷn â beth yw'r meddylfryd presennol fel y gallant naill ai gynllunio i ailagor ac archebu'r stoc angenrheidiol, neu gynllunio i gau drwy gydol cyfnod y Nadolig? Ac a wnewch chi ystyried cyflwyno'r cymorth ariannol y sonioch chi amdano yn gynt, oherwydd bydd mis Ionawr yn rhy hwyr i rai?
A gaf fi ddiolch i Russell am ei gwestiynau pellach? Roedd nifer o elfennau i'w gyfraniad. Yn bennaf oll, o ran y cyfyngiadau a'r cyfnod y byddant yn weithredol, dylwn ddweud bod pob cyfyngiad a roddwyd ar waith yn helpu i achub bywydau pobl, ond rydym yn ymwybodol iawn hefyd o'r angen i achub bywoliaeth pobl, a dyna pam rydym yn darparu symiau mor sylweddol o gymorth ariannol. Rydym yn monitro cyfraddau heintio'n gyson. Ar hyn o bryd, mewn rhai rhannau o Gymru, mae'r niferoedd hynny'n eithriadol o uchel ac rydym yn awyddus i'w gostwng mor gyflym ag y gallwn, a golyga hynny fod rhaid i bob un ohonom fel dinasyddion ystyried nid yn unig yr hyn y cawn ei wneud yn gyfreithlon, ond yr hyn y dylem ei wneud i helpu i leihau cyfraddau heintio.
Nawr, o ran y cyfnod pan gynigir cymorth ariannol, bydd unrhyw fusnes a gafodd gymorth ariannol yn ystod y cyfnod atal byr ac sy'n gweithredu o fewn y sector lletygarwch yn cael yr ail daliadau hynny y mis hwn, ac yna bydd y cymorth costau gweithredu a gymhwysir drwy'r gronfa cadernid economaidd ar gael ym mis Ionawr, gan sicrhau, dros gyfnod o ddau fis, fod gan fusnesau fynediad at gymorth ariannol hanfodol a all dalu eu costau gweithredu a mynd i'r afael â'r diffyg trosiant dros yr oddeutu chwe wythnos y bydd y cyfyngiadau hyn yn weithredol.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Byddai unrhyw fusnesau yn y sector lletygarwch eisoes wedi prynu stoc ar ddiwedd mis Tachwedd neu ddechrau mis Rhagfyr er mwyn diwallu anghenion y cyfnod hwn a rhwng nawr a'r Nadolig. Felly, i lawer o fusnesau, dyma'r adeg o'r flwyddyn pan fo llif arian ar ei dynnaf iddynt, a byddwn yn dweud bod cael cyllid ym mis Ionawr, neu hyd yn oed i mewn i fis Chwefror, yn rhy hwyr. Ac os nad yw'n rhy hwyr, bydd yn rhy hwyr i'r cadwyni cyflenwi sy'n llifo o'r busnesau hynny, a dyna’n sicr fyddai fy marn gadarn i.
Y pwynt arall yr hoffwn ei wneud, Weinidog, yw bod y dull un maint i bawb sydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn niweidio busnesau ledled Cymru sydd â chyfraddau heintio a chyfraddau trosglwyddo cymharol isel, a hynny'n ddiangen yn fy marn i. Fe wnaethoch nodi yn eich ateb diwethaf eich bod yn monitro—yn gywir hefyd—lle mae cyfraddau heintio yn arbennig o uchel, ond mae hynny'n amlwg yn golygu bod rhai ardaloedd yng Nghymru lle mae'r cyfraddau'n arbennig o isel. Felly, byddwn yn awgrymu bod angen ymyrraeth wedi'i thargedu arnom wedi’i chefnogi gan wyddoniaeth ac sy'n adlewyrchu'r gwahanol lefelau o risg mewn gwahanol rannau o'r wlad. Felly, a gaf fi ofyn fy nghwestiwn olaf, Weinidog? Pam y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fynnu gweithredu dull ar gyfer Cymru gyfan sy’n effeithio ar fywoliaeth pobl mewn rhannau o Gymru sydd â rhai o'r cyfraddau heintio isaf yn y DU gyfan, ac a yw hyn yn rhywbeth y byddwch chi’n ei ailystyried nawr, cyn cyfnod y Nadolig sydd o'n blaenau yn awr?
Wel, gallaf sicrhau'r Aelod ein bod bob amser yn ystyried mesurau amgen y gellid eu gweithredu, ond wrth gwrs, mae'r dull cenedlaethol yn cynnwys ffordd syml iawn o gyfathrebu â'r cyhoedd ledled Cymru. Ond fel y dywedaf, rydym yn agored i ddulliau amgen o fynd i’r afael â chyfraddau heintio coronafeirws os ydynt yn wahanol iawn ledled y wlad. Nawr, ym mhedwerydd cam y gronfa cadernid economaidd, rydym wedi ceisio rhoi sylw i'r her y mae llawer o fusnesau yn ei hwynebu yn sgil colli stoc sydd eisoes wedi'i harchebu, ac rydym hefyd wedi gallu gweithredu o fewn—[Torri ar draws.] Ddirprwy Lywydd, fel rwy'n dweud, roeddem hefyd yn gallu rhoi sylw ym mhedwerydd cam y gronfa cadernid economaidd i'r angen i gefnogi'r gadwyn gyflenwi hefyd, a dyna pam y bydd busnesau yng nghadwyn gyflenwi lletygarwch, megis gwasanaethau glanhau, yn gallu gwneud cais am gymorth.
Ac wrth gwrs, yn union fel y dywed Russell George yn gywir, i lawer o fusnesau ym maes lletygarwch, dyma adeg bwysicaf o'r flwyddyn. Dyma'r adeg o'r flwyddyn pan ellir sicrhau'r lefel uchaf o drosiant. Yn yr un modd, dyma'r adeg yn 2020 pan fo COVID yn fwyaf bygythiol i fywydau pobl ac i'r gwasanaethau iechyd. Rydym yn wynebu heriau enfawr ar draws gwasanaethau'r sector cyhoeddus, ac o fewn yr economi ar hyn o bryd ar ddiwedd 2020, a dyna pam, mewn perthynas â'r economi, ein bod yn sicrhau bod £340 miliwn ar gael—swm enfawr o arian—i helpu busnesau i oroesi hyd at 2021, ac erbyn hynny rydym yn gobeithio y bydd modd defnyddio'r amrywiaeth o frechlynnau mewn ffordd sy'n galluogi'r economi i ddychwelyd at rywbeth tebyg i normalrwydd yn ystod 2021.
Diolch. Trof at lefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn. Hoffwn ehangu, gyda'r Gweinidog, ar rai o'r materion sy'n ymwneud â lletygarwch a dechrau trwy ddweud ein bod ni ar y meinciau hyn yn glir, gyda Llywodraeth Cymru, fod iechyd y cyhoedd a diogelwch y cyhoedd o'r pwys mwyaf. Rydym yn deall hynny ac rydym yn rhannu pryderon y Llywodraeth ynghylch cynnydd COVID. Ond rwy'n ei chael hi'n anodd, Ddirprwy Lywydd, i egluro i fusnesau lletygarwch union natur y cyfyngiadau hyn a beth y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y byddant yn ei gyflawni. Mae pobl yn ei chael hi'n anodd deall pam ei bod hi’n dderbyniol i bobl o bedair aelwyd gyfarfod amser cinio, ond ni allwch gael pobl o bedair aelwyd yn cyfarfod mewn tafarn ar ôl 6 o'r gloch er y gallent fod ymhellach oddi wrth ei gilydd yn gorfforol nag eraill. Byddwn yn dweud wrth y Gweinidog fod hyn yn arbennig o anodd i bobl sy'n gweithio. Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, rwy'n siŵr, fod llawer o ddynion sy’n gweithio yn ei etholaeth yn mynd am un peint yn rheolaidd ar ddiwedd diwrnod gwaith. Rwy'n ei chael hi'n anodd gweld sut y mae eu hymddygiad yn debygol o fod yn fwy peryglus nag ymddygiad pedwar o bobl yn cael cinio gyda'i gilydd. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog, gan dderbyn mai dyma lle rydym yn awr tan 17 Rhagfyr—ac wrth gwrs, nid ei benderfyniadau ef yn unig yw rhai o'r penderfyniadau iechyd cyhoeddus—a wnaiff roi peth ystyriaeth i ychydig o hyblygrwydd yn yr argymhellion? A allai ystyried caniatáu, er enghraifft, i fusnesau lletygarwch werthu ychydig bach o alcohol ar ôl yr 17eg, a chyfyngu i un neu ddau ddiod yr un? A fyddai’n bosibl ystyried caniatáu, fel y mae’n gwybod bod Plaid Cymru yn ei gynnig, i fusnesau lletygarwch weini tan 7.00 p.m. ac aros ar agor tan 8.00 p.m.? Newidiadau bach yw'r rhain. Rwy'n ei chael hi'n anodd gweld—er fy mod i'n siŵr y bydd y Gweinidog yn fy nghywiro os ydw i'n anghywir—ond rwy'n ei chael hi'n anodd gweld sut y byddent yn cael effaith enfawr ar waethygu lledaeniad—
A wnewch chi ddod â'ch sylwadau i ben?
—a byddent, wrth gwrs, yn achubiaeth i rai busnesau.
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn a dweud ar y dechrau fod gennyf bob cydymdeimlad â phobl sy'n dioddef ar hyn o bryd o ganlyniad i’r coronafeirws, nid yn unig y rhai sydd â'r coronafeirws ei hun, ond hefyd y bobl sy'n teimlo, oherwydd y cyfyngiadau, fod eu cadernid meddwl a'u gwytnwch emosiynol wedi’i wanhau? Mae'r anallu i gymdeithasu fel y gallem o’r blaen wedi gwneud i lawer o bobl deimlo'n hynod o rwystredig, ac mae gennyf bob cydymdeimlad â dinasyddion yng Nghymru ar hyn o bryd o ganlyniad i'n penderfyniad i osod cyfyngiadau eithriadol o werthfawr i achub bywydau pobl ac i achub y GIG.
Nawr, gallaf sicrhau Helen Mary Jones fy mod i a chyd-Aelodau yn y Cabinet yn ystyried pob gwelliant posibl y gallwch eu dychmygu i'r cyfyngiadau, ond cawn ein cyngor yn bennaf oll gan arbenigwyr iechyd, ac fel y dywedais wrth Russell George, mae pob cyfyngiad a orfodir yn helpu i achub bywydau pobl, a rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth i ni ar hyn o bryd—yn union fel y nododd Helen Mary Jones yn gywir, iechyd y cyhoedd yw blaenoriaeth Rhif 1. Ond wrth gwrs, fel y dywedais wrth Russell George ychydig yn gynharach hefyd, i gefnogi'r cyfyngiadau angenrheidiol ar weithgareddau busnes, rydym yn darparu'r pecyn cymorth mwyaf cynhwysfawr i fusnesau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr nad oes yr un ohonom yn cenfigennu at y penderfyniadau sy’n rhaid i’r Llywodraeth eu gwneud. Roeddwn yn falch o glywed y Gweinidog, yn ei ymateb i Russell George, yn cyfeirio at fusnesau cadwyni cyflenwi. Ac fe fydd yn ymwybodol, er enghraifft, o'r heriau i Castell Howell, busnes cyflenwi wedi'i leoli yn Crosshands, sy'n dibynnu ar letygarwch ar gyfer 70 y cant o'u busnes. Wrth i Lywodraeth Cymru adolygu cymorth wrth fynd i mewn i'r flwyddyn newydd, a yw'n gallu ein sicrhau y bydd y busnesau cyflenwi hynny’n parhau i gael eu diogelu?
A gaf fi awgrymu i'r Gweinidog fod anghysondeb yn y cyfyngiadau presennol, lle gall archfarchnadoedd a siopau eraill werthu alcohol tan 10.00 p.m., ond rhaid i fusnesau lletygarwch orffen gwneud hynny am 6.00 p.m.? Tybed a yw'r Gweinidog yn rhannu fy mhryder y gallai hynny greu perygl o annog pobl i gymdeithasu gartref, ac a wnaiff ystyried p'un a oes modd cyfyngu ymhellach ar y fasnach fanwerthu?
Wrth inni nesu at y flwyddyn newydd, a dechrau gallu gweld pethau'n gwella, gobeithio, bydd y Gweinidog yn ymwybodol, wrth gwrs, nad yw mis Ionawr a mis Chwefror byth yn adegau arbennig o dda i letygarwch, hyd yn oed pe baent yn agor, a bydd angen cymorth hirdymor. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i roi ystyriaeth bellach i ba gymorth mwy hirdymor a allai fod ar gael i fusnesau i'w helpu i ymadfer, oherwydd, ar ôl colli'r Nadolig, mae hynny'n ddifrifol iawn? A ellid ystyried rhyw fecanwaith, er enghraifft, i leihau costau trwyddedu, sy'n gostau sylweddol, i fusnesau?
Credaf fod llawer o rinwedd yn perthyn i awgrym Helen Mary Jones a byddwn yn sicr yn ystyried hynny ochr yn ochr â mathau eraill o gymorth a allai gynnig manteision strategol i fusnesau wrth inni edrych tuag at adferiad. Roeddwn wedi gobeithio erbyn hyn y byddwn yn gallu amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer ac ailadeiladu'r economi. Fodd bynnag, o ystyried bod coronafeirws yn dal i fod gyda ni ar ffurf mor ddinistriol, roeddwn yn teimlo bod angen cadw fy sylw a fy ffocws ar gymorth brys i fusnesau. Ond yn bendant rydym yn mynd i fod yn edrych ar sut y gallwn sicrhau bod natur ffyniannus hirdymor busnesau yn cael ei diogelu drwy ein gwaith adfer ac ailadeiladu economaidd.
Credaf fod Helen Mary Jones yn gwneud y pwynt pwysig fod busnesau—cyflogwyr o gryn bwys yng Nghymru—o fewn y gadwyn gyflenwi ar gyfer lletygarwch wedi ei chael hi'n anodd, a byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r busnesau hynny yn ystod yr wythnosau nesaf i sicrhau bod unrhyw gymorth yn y dyfodol yn cael ei deilwra i ddiwallu eu hanghenion ac anghenion eu gweithwyr hefyd. Ac wrth gwrs, mae ymddygiad pobl yn hanfodol bwysig—yn enwedig ar yr adeg enbyd hon wrth inni nesáu at y Nadolig. Ac mae cyfyngiadau ar waith; bydd rhywfaint o ymlacio dros gyfnod y Nadolig, ond fel y dywedais eisoes, mae'n gwbl hanfodol fod pobl yn gofyn beth y dylent ac na ddylent ei wneud er mwyn diogelu bywydau—o ran ymddygiad, sut y gallant sicrhau bod eu hanwyliaid, eu ffrindiau, yn cael eu diogelu—a'r ffordd orau o wneud hynny yw cymryd cyfrifoldeb personol a sicrhau nad ydych chi, na'ch anwyliaid, mewn perygl o drosglwyddo neu o ddal coronafeirws.
Credaf fod y Gweinidog yn iawn i oedi cyn cyhoeddi'r gwaith ailadeiladu a'r cynlluniau ailddatblygu ac i ganolbwyntio ar yr argyfwng ar hyn o bryd. Ond wrth inni symud tuag at y cam hwnnw, tybed a yw'r Gweinidog yn cytuno fod y penderfyniad siomedig a gyhoeddwyd gan Ineos ddoe yn dangos bod gwir angen inni ailffocysu ein cymorth i fusnes ar fusnesau lleol er mwyn galluogi ein busnesau bach i dyfu'n rhai canolig eu maint. Rydym wedi gweld gormod o achlysuron lle rydym wedi buddsoddi i geisio denu busnesau i mewn ac maent wedi ein siomi. Wrth gwrs, rwy'n siŵr y byddai'n cytuno y gallai fod elfen Brexit i'r penderfyniad hwn.
Felly, wrth iddo ailarchwilio ei gynlluniau ailadeiladu, a all fy sicrhau y bydd ffocws cryf ar fusnesau lleol ac ar dyfu'r rheini a sicrhau bod ganddynt y sgiliau sydd eu hangen arnynt? A all roi rhyw syniad inni pa gynlluniau a allai fod ar gyfer y safle ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan ei bod bellach yn bendant fod Ineos wedi troi eu cefnau?
A gaf fi ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau eto a dweud ei bod yn siomedig iawn fod Ineos wedi penderfynu symud i Ffrainc gyda'u rhaglen Grenadier? Mae hwn, wrth gwrs, yn gerbyd eiconig i'r Deyrnas Unedig, ac mae'n ergyd ddinistriol yn fy marn i i gefnogwyr y Defender gwreiddiol, a oedd yn gobeithio y byddai'r Grenadier yn cael ei weithgynhyrchu ar yr ynysoedd hyn. Yn ôl yr hyn a ddeallwn, daeth safle ar gael yn Ffrainc a oedd yn gweddu i anghenion Ineos, ac wrth gwrs, mae Brexit yn fater na all llawer o weithgynhyrchwyr ei anwybyddu. Felly, gwnaeth Ineos y penderfyniad ac fel y dywedais, roeddem yn siomedig iawn pan glywsom amdano.
Ond mae potensial enfawr i'r safle hwn yn ne Cymru. Rydym yn parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol a chydag arbenigwyr tasglu Ford yr ymgysylltwn â hwy'n rheolaidd, er bod y tasglu ei hun bellach wedi rhoi'r gorau i'w weithgarwch. Rydym yn obeithiol y gallwn ddenu swyddi o ansawdd uchel i'r safle penodol hwnnw.
Rhaid i mi gytuno â Helen Mary Jones yn ei honiad fod yn rhaid inni gryfhau ein hymdrechion i dyfu cwmnïau bach a sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i ddod yn fusnesau canolig eu maint, ac i sicrhau eu bod wedi'u hangori'n gadarn yng Nghymru. Ni allaf fanylu gormod heddiw—ni ddylwn fanylu gormod heddiw—ynglŷn â'r genhadaeth ailadeiladu ac adfer a fydd yn cael ei hamlinellu, ond gallaf ddweud wrth yr Aelodau y bydd pump o elfennau wedi'u cynnwys ynddi, a bydd o leiaf un o'r elfennau hynny'n ateb y diben o gefnogi cwmnïau bach cynhenid Cymru, gan eu galluogi i fod yn fwy diogel a gwydn ac i dyfu i ddod yn ganolig eu maint a chyflogi mwy o bobl Cymru.
Diolch. Dychwelwn at y cwestiynau ar y papur trefn. Cwestiwn 3—Mandy Jones.