Datblygu Busnesau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:42, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, a gaf fi ddiolch i Angela Burns am ei chwestiwn atodol? Rwy’n cytuno’n llwyr y dylid rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen i fusnesau nad yw COVID wedi effeithio arnynt, er mwyn iddynt allu ymadfer yn gryf wedi’r pandemig, ac i dyfu, er gwaethaf yr hyn rydym wedi’i wynebu gyda’n gilydd fel gwlad. Mae cefnogaeth 'busnes fel arfer' ar gael i fusnesau gan Busnes Cymru, gan gynnwys y rhaglen twf carlam yn bwysig iawn, a  chyngor a chymorth ar gyfer busnesau newydd, ac felly hefyd y gefnogaeth 'busnes fel arfer' gan Fanc Datblygu Cymru. O fewn y Llywodraeth, rydym hefyd yn gweithredu cronfa dyfodol yr economi, sydd wedi'i chynllunio, os mynnwch, i wefru diwydiannau yfory—y rhai sydd â photensial mawr i dyfu—gan sicrhau bod ein cyllid yn cyd-fynd â'n galwadau i weithredu, gan gynnwys buddsoddi mewn sgiliau, ymchwil a datblygu ac yn hanfodol bwysig wrth gwrs, datgarboneiddio. Ond byddwn yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion cynhwysfawr a nodwyd ganddi am y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau.FootnoteLink