Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 2:01, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr nad oes yr un ohonom yn cenfigennu at y penderfyniadau sy’n rhaid i’r Llywodraeth eu gwneud. Roeddwn yn falch o glywed y Gweinidog, yn ei ymateb i Russell George, yn cyfeirio at fusnesau cadwyni cyflenwi. Ac fe fydd yn ymwybodol, er enghraifft, o'r heriau i Castell Howell, busnes cyflenwi wedi'i leoli yn Crosshands, sy'n dibynnu ar letygarwch ar gyfer 70 y cant o'u busnes. Wrth i Lywodraeth Cymru adolygu cymorth wrth fynd i mewn i'r flwyddyn newydd, a yw'n gallu ein sicrhau y bydd y busnesau cyflenwi hynny’n parhau i gael eu diogelu?  

A gaf fi awgrymu i'r Gweinidog fod anghysondeb yn y cyfyngiadau presennol, lle gall archfarchnadoedd a siopau eraill werthu alcohol tan 10.00 p.m., ond rhaid i fusnesau lletygarwch orffen gwneud hynny am 6.00 p.m.? Tybed a yw'r Gweinidog yn rhannu fy mhryder y gallai hynny greu perygl o annog pobl i gymdeithasu gartref, ac a wnaiff ystyried p'un a oes modd cyfyngu ymhellach ar y fasnach fanwerthu?

Wrth inni nesu at y flwyddyn newydd, a dechrau gallu gweld pethau'n gwella, gobeithio, bydd y Gweinidog yn ymwybodol, wrth gwrs, nad yw mis Ionawr a mis Chwefror byth yn adegau arbennig o dda i letygarwch, hyd yn oed pe baent yn agor, a bydd angen cymorth hirdymor. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i roi ystyriaeth bellach i ba gymorth mwy hirdymor a allai fod ar gael i fusnesau i'w helpu i ymadfer, oherwydd, ar ôl colli'r Nadolig, mae hynny'n ddifrifol iawn? A ellid ystyried rhyw fecanwaith, er enghraifft, i leihau costau trwyddedu, sy'n gostau sylweddol, i fusnesau?