Blaenau'r Cymoedd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 1:49, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn fy rhoi mewn sefyllfa anodd yn fwriadol, gan ei bod yn gwybod yn iawn beth yw fy marn ar fuddsoddi mewn ffyrdd yn erbyn trafnidiaeth gynaliadwy, ac yn sicr yn ein strategaeth drafnidiaeth yng Nghymru rydym wedi nodi ein bod, yn y dyfodol, am symud ein pwyslais tuag at newid moddol. O ran y prosiect penodol hwn, fel y gŵyr ac fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud wrthi, mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn ddull mwy soffistigedig nag y mae hi'n ei ddisgrifio, ac mae'r ffigur a ddyfynnir yn cynnwys y costau cynnal a chadw gydol oes, sy'n sylweddol. Ond mae hi'n iawn i ddweud, o ran mynd i'r afael â thlodi trafnidiaeth i rai o'r cymunedau sy'n wynebu'r amgylchiadau mwyaf heriol yn y wlad, mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud mwy yn y dyfodol i helpu pobl nad oes ganddynt gar, yn hytrach na chadarnhau dibyniaeth ar geir.