Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Pan fyddwn yn trafod y diwydiant dur yng Nghymru, rydym yn tueddu i ganolbwyntio ar Bort Talbot, ac yn amlwg, mae hynny'n hollbwysig. Ond a gaf fi ofyn i'r Gweinidog roi ei sicrwydd personol i ddinasyddion Llanelli a'r gweithwyr yn Nhrostre, pan fydd yn cael y trafodaethau hyn—ac rwyf mor falch o glywed ei fod—y bydd yn cofio ei fod yn fater sy'n ymwneud â mwy na Phort Talbot yn unig, ac y gallai penderfyniadau a wneir am ddyfodol Port Talbot effeithio ar ddyfodol posibl yr hyn sy'n waith pwysig iawn, ond mewn niferoedd llawer llai? I ardal teithio i'r gwaith Llanelli ac wrth gwrs, i'w cadwyni cyflenwi, maent yn swyddi pwysig iawn o ansawdd da.