Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Yn sicr, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw. Yn wir, mae'n rhywbeth a geisir yn rheolaidd gan fy nghyd-Aelod a'r Aelod lleol dros Lanelli, Lee Waters. I gydnabod bod maint yr her y mae Tata yn ei hwynebu yn rhywbeth na all ond Llywodraeth y DU gynorthwyo ag ef, mae ef a Llywodraeth Cymru, ar wahân, yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU yn rheolaidd i weithredu mewn ffordd gyfrifol. Deallaf fod oddeutu 630 o bobl hynod fedrus yn cael eu cyflogi yng ngwaith Trostre, ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod ganddynt ddyfodol gloyw, ochr yn ochr â'r gweithwyr ffyddlon yn safleoedd eraill Tata ledled Cymru.