Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Diolch. Mae ‘Cynlluniau Traffig wrth Gefn ar Ddiwedd y Cyfnod Pontio—Caergybi’, datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ddydd Llun, yn cyfeirio at waith gyda phartneriaid ledled gogledd Cymu, sy'n dda, ond mae'n hepgor cyfeiriad at ei waith gyda Llywodraeth y DU, a chyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi—CThEM—ac at y rôl allweddol sy'n cael ei chwarae gan AS Ynys Môn, Virginia Crosbie. Bythefnos yn ôl, dywedodd perchennog y porthladd, Stena Line, y bydd y broses, ac rwy’n dyfynnu, yn 'llyfn'. Mae Llywodraeth y DU a CThEM wedi datgan eu bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a'r porthladd ar hyn. Yr wythnos diwethaf, cawsom wybod bod Roadking Truckstop Caergybi wedi'i sicrhau fel man tollau newydd, a ddoe, daeth y DU a'r UE i gytundeb ar archwiliadau ar y ffin â Gogledd Iwerddon, gan sicrhau mynediad dirwystr i nwyddau sy'n dod o Ogledd Iwerddon i rannau eraill o'r DU, gyda nifer fach o archwiliadau rhagofalus ar fwyd a chynhyrchion anifeiliaid sy’n mynd i Ogledd Iwerddon.
Felly, pa ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael mewn gwirionedd â Llywodraeth y DU a CThEM ynglŷn â'r materion allweddol hyn?