Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:33, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, rydym wedi gweld Llywodraeth Dorïaidd y DU yn siarad dro ar ôl tro am ei hagenda lefelu am i fyny, ond prin oedd y dystiolaeth o hynny yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn ddiweddar mewn perthynas â Chymru. A nawr, wrth i ni nesáu at ddiwedd y cyfnod pontio, mae'r addewid mynych na fyddem geiniog yn waeth ein byd ar ôl Brexit yn edrych yn go dila, wrth i'r Canghellor roi rhagor o fanylion am gronfa ffyniant gyffredin y DU. Pa asesiad rydych wedi'i wneud o'r gronfa ffyniant gyffredin, sut y bydd yn cyflawni ei haddewid fel cronfa addas a phriodol yn lle cronfeydd strwythurol yr UE, yn enwedig mewn ardaloedd fel fy un i?