Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Diolch i Vikki Howells am y cwestiwn hwnnw. Hoffwn fod mewn sefyllfa i roi asesiad iddi o'r gronfa ffyniant gyffredin, ond nid yw'r manylion prin a roddodd y Canghellor i ni yn yr adolygiad o wariant yn ein galluogi i wneud hynny'n hyderus. Nawr, bydd yn gwybod, fel rwyf fi, fod rhaglenni a busnesau a sefydliadau, sefydliadau mewn cymunedau ledled Cymru a fydd wedi gobeithio y byddai rhaglenni ar waith ar gyfer dechrau'r flwyddyn newydd, er mwyn parhau i gyflawni’r manteision i gyflogadwyedd, twf, pontio i fod yn ddi-garbon, a'r holl fanteision eraill rydym wedi'u cael o gyllid hyd yma. Ac nid ydynt yn y sefyllfa honno gan nad yw Llywodraeth y DU wedi darparu manylion am raglenni sydd i ddod, a gwyddom eisoes y bydd cyllid y flwyddyn nesaf yn gyfran fach iawn o'r hyn y byddem wedi'i ddisgwyl fel arall, a'r hyn a addawyd i bobl Cymru yn wir. Mae'n un o restr hir o addewidion a dorrwyd gan y Llywodraeth Geidwadol hon yn San Steffan.