Porthladd Caergybi

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:38, 9 Rhagfyr 2020

Mae'r rhestr o bryderon am y diffyg paratoadau yng Nghaergybi yn frawychus—loriau i gael eu stacio ar yr A55, y potensial am anghyfleustra mawr, yn enwedig o ystyried bod y system electronig ar gyfer allforion o 1 Ionawr yn dal ddim wedi cael ei dreialu eto; y diffyg darparu isadeiledd ffiniau mewn da bryd ar gyfer mewnforion o Orffennaf y flwyddyn nesaf, wnaeth arwain at Lywodraeth Prydain yn cymryd safle Roadking, a dwi'n nodi y ffaith rydym ni wedi clywed rŵan bod y Ceidwadwyr, yn cynnwys Aelod Seneddol San Steffan Ynys Môn, fel petai nhw'n dathlu'r ffaith bod 28 o bobl yno'n colli'u swyddi jest cyn y Nadolig. Safle newydd oedd ei angen yng Nghaergybi. Y peryg y bydd unrhyw waith papur wrth gludo nwyddau o Gaergybi drwy'r weriniaeth i'r gogledd yn risg ychwanegol i gwmnïau cludiant. Ac o gymryd popeth efo'i gilydd, y peryg y bydd unrhyw rwystr i lif masnach yn cynnig cymhelliad i fasnachwyr beidio defnyddio porthladd Caergybi, a'r ffaith bod hynny yn tanseilio swyddi. 

Rŵan, ar yr unfed awr ar ddeg, rydym ni angen camau lliniaru brys ar gyfer y cyfnod yn union o'n blaenau. Felly, pa drafodaethau sy'n digwydd ar hynny? 

Ac, yn yr hir dymor, pa drafodaethau fydd yn digwydd ar sicrhau buddsoddiad yng Nghaergybi, er mwyn gwneud iawn am y llanast a'r difrod sy'n cael eu hachosi gan ein hymadawiad ni o'r Undeb Ewropeaidd, ac yn benodol rŵan y diffyg paratoi am hynny?