Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:50, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch eich bod wedi cydnabod y gwaith cadarnhaol, fel y dywedais, ac rwy'n falch iawn hefyd eich bod yn cydnabod y gwaith sydd wedi'i wneud nid yn unig i ymgysylltu â'r gwledydd hynny lle mae gennym drefniadau masnach drwy'r trefniadau parhad ar gyfer masnach, ond hefyd y gwledydd newydd y byddwn yn masnachu â hwy ar sail masnach rydd ar ôl 1 Ionawr. Roeddwn yn meddwl tybed a allech ddweud ychydig mwy wrthyf am sefyllfa Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chytundebau masnach â Chanada, Seland Newydd ac Awstralia yn y dyfodol. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed a ydych wedi gwneud unrhyw waith i nodi buddiannau Cymreig penodol mewn perthynas ag unrhyw gytundebau masnach y gellid eu gwneud, ac unrhyw sylwadau y gallech fod wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU yn hyn o beth. Fel y gwyddoch, cafwyd cefnogaeth sylweddol ymhlith y cyhoedd ar draws y DU i gytundeb masnach tebyg i CANZUK. Mae llawer o arweinwyr busnes wedi galw am y math hwnnw o gytundeb masnach, ac mae llawer o wleidyddion wedi'i gefnogi ar sail drawsbleidiol hefyd. Felly, o ystyried bod hwnnw'n gytundeb masnach posibl y gallem ei weld yn y dyfodol, byddai'n dda gweld Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n rhagweithiol nawr ac yn cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag ef. Felly, a allwch chi ddweud wrthym pa fath o drafodaethau sydd wedi'u cynnal rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â manteision posibl masnach ar ffurf CANZUK?