Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Mae Llywodraeth y DU yn arwain ar drafodaethau masnach rhyngwladol, fel y gwn y byddai'n derbyn, ac fel y byddwn yn dychmygu y byddai'n ei gefnogi. Felly, ein tasg fel Llywodraeth yw bwydo safbwynt Llywodraeth Cymru ar ran economi Cymru, a busnesau Cymru, allforwyr Cymru, i'r trafodaethau hynny. Dyma'r mathau o bethau a fydd ar agenda'r drafodaeth heddiw.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn edrych ar hyn yn y cyd-destun byd-eang. Byddwn eisiau sicrhau y bydd unrhyw gytundebau masnach rhyngwladol o'r math y mae'n eu disgrifio yn sicrhau'r budd mwyaf posibl i allforwyr yng Nghymru, ond hefyd i fusnesau a chynhyrchwyr sydd eisoes yng Nghymru. Felly, er enghraifft, ceir penderfyniadau anodd sy'n codi wedyn yng nghyd-destun cynnal negodiadau masnach gydag allforwyr amaethyddol pwysig, ac mae Awstralia a Seland Newydd yn y categori hwnnw. Felly, mae'r penderfyniadau'n eithaf anodd eu gwneud yn aml, ond ein blaenoriaeth fel Llywodraeth yw sicrhau'r cyfle mwyaf i Gymru, i economi Cymru.
Ond rwy'n credu fy mod eisiau ei roi yn y cyd-destun y byddai hyd yn oed Llywodraeth y DU yn dweud bod effaith economaidd y negodiadau masnach hynny i'r DU yn debygol o fod yn ffracsiynau o 1 y cant. Nid yw hynny'n golygu na ddylid mynd ar eu trywydd, dylid mynd ar eu trywydd yn sicr, ond nid wyf yn credu y byddai'n iawn inni annog pobl i ddisgwyl y gall y cytundebau masnach hynny ynddynt eu hunain wneud iawn am absenoldeb perthynas fasnachu dda â'n bloc masnachu mwyaf ar draws y sianel, gan ein bod yn siarad am wahanol raddfeydd yma, fel y gwn y bydd yn ei dderbyn.