Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:46 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:46, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Ni chlywais y cwestiwn cyfan, ond rwy'n credu ei fod yn gofyn i mi pa gamau y byddem yn eu cymryd, ac rwyf wedi bod yn glir iawn y byddwn yn cymryd pob cam sydd ar gael i ni yn gyfreithiol i ddiogelu pwerau'r Senedd hon. Credaf na ddylem dybio—. Wel, ni ddylem ganiatáu'r argraff fod bwrw ymlaen yn wyneb gwrthwynebiad y deddfwrfeydd datganoledig yn y DU yn ffordd dderbyniol i Lywodraeth y DU weithredu. A bod yn onest, fe wyddom fod angen ailwampio confensiwn Sewel o ran sut y mae'n gweithredu, ond wrth ei wraidd mae'r egwyddor na ddylid herio penderfyniadau'r Seneddau datganoledig heblaw mewn sefyllfaoedd eithafol iawn. Ac yn sicr nid yw'r amgylchiadau hyn yn cyrraedd y bar uchel iawn hwnnw, ac rwy'n ei ddisgrifio fel bar uchel iawn oherwydd gwn mai dyna sut y bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ei ddisgrifio hefyd.