Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. A gaf fi droi i orffen at y Bil marchnad fewnol rydym newydd fod yn ei drafod? Yn amlwg, pleidleisiodd y Senedd i atal ei chydsyniad i'r Bil hwn yn gynharach. Mae San Steffan yn annhebygol o wrando. Mae ganddi hanes o beidio â gwrando arnom fel Senedd pan fyddwn yn pleidleisio yn erbyn cydsyniad deddfwriaethol. Felly, y cwestiwn sy'n codi yw: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn ystyried eu cymryd nesaf i ddiogelu datganoli ac amddiffyn democratiaeth Cymru—[Anghlywadwy.]—setliad datganoli dros y misoedd diwethaf? Os na, a fyddai'n agored i wneud hynny nawr?