Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Wel, yn fwyaf diweddar, mynychais gyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau Ewropeaidd, ddydd Iau diwethaf, lle gwneuthum y pwynt ynglŷn â'n blaenoriaethau fel Llywodraeth ar ran pobl Cymru, yn ogystal â chodi cwestiynau am lefelau cynnydd mewn perthynas â gwahanol agweddau ar negodi. Gwneuthum y pwynt mai'r peth hanfodol ar hyn o bryd, i'r ddwy ochr gyda llaw, oedd dangos hyblygrwydd, ond yn benodol, gan mai rhwymedigaeth Llywodraeth y DU yw gofalu am fuddiannau economaidd pobl y DU, y dylent roi'r flaenoriaeth i swyddi a bywoliaeth pobl yng Nghymru, yn hytrach nag ar gysyniad afreal sofraniaeth.