Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Diolch ichi am hynny, ac os symudaf ymlaen yn awr at y gronfa ffyniant gyffredin, y cyfeiriwyd ati fwy nag unwaith heddiw. Fe fyddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, eich bod wedi cyhoeddi fframwaith newydd yn ddiweddar ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, fframwaith a fydd ar waith erbyn i gronfeydd yr UE ddechrau diflannu ddiwedd eleni. Weinidog, daeth eich datganiad diweddar ynglŷn â hyn i'r casgliad canlynol, ac rwy’n dyfynnu:
'mae ein gwaith o gyflawni'r Fframwaith hwn yn dibynnu ar ymgysylltu cadarnhaol â Llywodraeth y DU—rhywbeth sydd heb ei ganiatáu inni hyd yma. Rhaid i Gymru gael cyllid llawn sy’n parchu ein setliad datganoli.'
O ystyried lefel y mewnbwn a gawsoch felly, neu’r diffyg mewnbwn yn hytrach, yn rhan o broses negodi cytundeb Brexit dros y blynyddoedd, beth sy'n gwneud i chi feddwl y bydd y sefyllfa yma'n wahanol yn y pen draw?