Paratoadau Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:54, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Credaf fod cwestiwn Dawn Bowden yn mynd i wraidd y mater yma. Rydym yn wynebu sefyllfa heddiw, lai na mis cyn diwedd y cyfnod pontio, pan nad oes yr un ohonom yn y Siambr hon yn gwybod ar ba sail y byddwn yn cynnal ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr. Gwn fod busnesau a sefydliadau'n gweiddi am y sicrwydd hwnnw yn ei hetholaeth a ledled Cymru, ac yn ofni'r canlyniad, yn arbennig, o adael heb unrhyw fath o berthynas fasnachol. Yr aflonyddwch enfawr a'r niwed economaidd a ddaw yn sgil hynny; mae'n anodd goramcangyfrif y risgiau y byddwn yn eu hwynebu. Bydd cyflogwyr yn ei hetholaeth, yn fy etholaeth i, ac mewn etholaethau eraill yn gwybod eisoes y byddant yn wynebu costau ychwanegol am ddatganiadau tollau, gwaith papur tollau a biwrocratiaeth newydd, ond maent yn aros i gael gwybod a fydd yn rhaid iddynt dalu tariffau nawr, sut y caiff eu cynnyrch ei drin, sut y bydd rhannau cydrannol yn y cadwyni cyflenwi y soniodd amdanynt yn cael eu trin, a sut y caiff safonau eu trin yn eu trefniadau masnach rhyngwladol. Mae'r rheini i gyd yn hanfodol i'r ffordd y mae busnesau'n ymddwyn ac yn hollbwysig, yn gosod costau sylweddol ar y ffordd y mae busnesau a chyflogwyr yn masnachu. Felly, rwy'n gwybod y byddai'n gobeithio, fel finnau, y gellir cytuno ar berthynas fasnachu, ond bydd hefyd yn gwybod, fel y gwn i, na fydd y berthynas fasnachu honno o'r ansawdd sydd ei angen ar y pwynt hwn i roi cyflogwyr ac allforwyr yng Nghymru yn y sefyllfa orau bosibl.