Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Ac ers cryn dipyn o amser, rydym i gyd wedi bod yn aros am fanylion hanfodol bwysig cytundeb parod i'w bobi y Prif Weinidog, nad oedd yn bodoli mewn gwirionedd, fel y mae pawb ohonom yn gwybod bellach. Ac fel y nodwyd eisoes, rydym yn dal i aros am fanylion ynglŷn â sut y bydd Cymru'n elwa'n benodol o'r gronfa ffyniant gyffredin ddi-ddal.
Yn fy etholaeth i, fel llawer o rai eraill yng Nghymru, mae gennyf gyflogwyr mawr sy'n masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd. Maent yn dibynnu ar gyflenwadau sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd i Ferthyr Tudful a Rhymni. Wrth i 2020 ddirwyn i ben, a fyddech yn cytuno nid yn unig ein bod yn wynebu sefyllfa draed moch, ond dyfodol ansicr iawn hefyd i lawer o swyddi yn ein cymunedau, oherwydd bod Prif Weinidog y DU wedi dweud celwydd wrth bobl y wlad hon? Ac a allwch chi ddweud wrthyf beth yw'r sylwadau diweddaraf y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i helpu i sicrhau nad yw etholaethau fel fy etholaeth i yn cael eu gadael ar ôl yn llanastr Brexit?