Brechlynnau COVID-19

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:00, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n newyddion da iawn fod yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi gallu cymeradwyo'r cyflenwad o'r brechlyn Pfizer/BioNTech. Mae wedi gallu gwneud hynny gan ddefnyddio darpariaethau o dan y gyfraith Ewropeaidd, a fydd yn gymwys tan 1 Ionawr 2021.