Brechlynnau COVID-19

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 3:01, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, roedd erthygl ar dudalen flaen y Financial Times yn pwysleisio i ba raddau roedd yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd, pan oedd wedi'i lleoli yn Canary Wharf, yn pwyso ar ein Hasiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd am gymorth gyda llawer o'i gwaith. Mae hefyd wedi wynebu heriau gwirioneddol, o dystiolaeth y FT o leiaf, ers adleoli i Amsterdam am nad oedd cymaint o uwch staff eisiau adleoli o Lundain. A fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cefnogi ac a all weld unrhyw ffordd efallai y gallai ein rheolyddion gynnig cyd-gymorth a chefnogaeth i'r Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd i'w cefnogi gyda'r gofynion rheoliadol sydd angen eu cyflawni fel bod yr Undeb Ewropeaidd, gobeithio, yn cyflymu brechlynnau ar eu cyfer hwy yn ogystal â ninnau?