Brechlynnau COVID-19

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:02, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae gallu'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd i weithredu'n gyflym, fel y gwnaeth, wedi bod o fewn fframwaith rheoliadau presennol yr Undeb Ewropeaidd, fel y gŵyr yr Aelod. Rwy'n credu bod ei gwestiwn yn cyfeirio at gydweithrediad rhyngwladol yn y gofod hwn, a chredaf ei bod yn bwysig cydnabod bod datblygu'r brechlynnau wedi bod yn ymdrech ryngwladol anhygoel mewn gwirionedd. Ar un ystyr, nid wyf yn credu mai edrych ar amgylchedd cystadleuol rhwng rheoleiddwyr yw'r ffordd fwyaf defnyddiol o edrych arno o reidrwydd. Mae hanes proses brechlyn Pfizer/BioNTech wedi bod yn un o gydweithrediad Ewropeaidd mawr a buddsoddiad Ewropeaidd sylweddol, ac mae hynny'n beth cadarnhaol iawn. Yn gyffredinol, bydd proses Brexit yn andwyol i nifer o'n trefniadau presennol mewn perthynas â chyd-gymorth iechyd, fel y mae'n ei ddisgrifio, mewn perthynas â systemau rhybuddio cynnar yn ogystal â rhwystrau rheoleiddio. Felly, mae'r rhwystrau newydd a fydd yn cael eu rhoi yn lle cyd-gymorth a chydweithredu yn y dyfodol yn peri gofid i mi.