Perthynas Llywodraeth Cymru â'r Undeb Ewropeaidd

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:56, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Roedd aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd yn cynnig manteision mawr i Gymru, gan gynnwys galluogi ein gwlad i chwarae rhan bwysig ar y llwyfan Ewropeaidd yng Nghyngor y Gweinidogion, Senedd Ewrop, Pwyllgor y Rhanbarthau a grwpiau cysylltiedig. Y tu allan i'r UE, credaf y dylem sicrhau'r berthynas agosaf bosibl â'r Undeb Ewropeaidd, a dylai hynny gynnwys y rhanbarthau, y bu gennym berthynas gref â hwy ers amser maith, a hefyd Aelodau o'r Senedd, a all ychwanegu at waith Gweinidogion Llywodraeth Cymru wrth gynnal proffil Cymru. Credaf y dylem roi ystyriaeth ofalus i sefydliadau a grwpiau Ewropeaidd y gallwn gyfrannu'n fuddiol iddynt.