Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
[Anghlywadwy.]—gyda chwestiwn atodol John Griffiths, rydym yn manteisio ar bob cyfle i gynnal y cysylltiadau hynny. Ym mis Medi, er enghraifft, cyfarfu'r Prif Weinidog, y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ar y pryd a minnau â llysgennad yr UE i'r DU. Mae hwnnw'n amlwg yn benodiad newydd, ond daeth y llysgennad UE hwnnw i Gaerdydd. Rydym hefyd wedi bod yn cadeirio Menter Vanguard yn llwyddiannus drwy gydol 2020, sef grŵp rhyngranbarthol arwyddocaol sy'n canolbwyntio ar arbenigo deallus ar sail gydweithredol i hybu diwydiannau arloesol. A bydd yn gwybod—soniodd yn ei gwestiwn am rôl seneddwyr yn hynny, ac mae gan grŵp cyswllt y DU ar gyfer Pwyllgor y Rhanbarthau gynrychiolwyr o'r Senedd hon: David Rees, a Russell George fel y dewis amgen. Mae'r rheini i gyd yn ffyrdd pwysig o gynnal y rhwydwaith hwnnw o gysylltiadau, ar lefel aelod-wladwriaeth, ar lefel seneddol, ond hefyd ar lefel ranbarthol. A bydd yn gwybod o'r strategaeth ryngwladol fod ymgysylltu ar lefel ranbarthol â Llydaw, Gwlad y Basg a Fflandrys yn arbennig yn rhan hanfodol o'n rhwydwaith cyfathrebu pwysig ar draws yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y dyfodol.