Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 9 Rhagfyr 2020.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Wrth i 1 Ionawr a Brexit ddod yn agosach, mae'n amlwg yn bwysig fod y DU'n datblygu cymaint o gytundebau masnach â phosibl a bod rhan i Gymru yn y rheini. Fel y gwyddoch, yn ddiweddar, lluniodd Llywodraeth y DU gytundeb masnach gyda Japan, sy'n cynnwys amddiffyniadau daearyddol pwysig a fydd, gobeithio, o fudd i amrywiaeth o fusnesau yng Nghymru. Tybed a allech ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru wedi cael rhan o gwbl yn y broses o sicrhau amddiffyniadau a chyflwyno safbwynt Cymru ar hynny mewn perthynas â'r cytundeb masnach hwnnw a hefyd unrhyw gytundebau masnach eraill a allai fod yn yr arfaeth. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, er mai'r DU sy'n sofran yn y materion hyn, ei bod hi'n bwysig fod gan Lywodraeth Cymru lais a'n bod yn gwneud ein gorau i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa dda i gymryd rhan yn y byd mawr newydd y tu hwnt i 1 Ionawr.