Allforio Cynnyrch o Gymru

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 9 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:04, 9 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ei sicrhau, o ran y cytundeb masnach gyda Japan yn benodol y soniodd amdano yn ei gwestiwn, ein bod wedi cymryd rhan dda yn hynny. Yr wythnos hon, cyhoeddais asesiad o effaith y cytundeb masnach ar economi Cymru yn gyffredinol. Yn fras, mae'n efelychu'r trefniant presennol, ond ceir rhai ffyrdd lle mae'n ymestyn cyfleoedd, sy'n amlwg yn gadarnhaol iawn. Credaf mai ymgysylltu rhagweithiol, yn amlwg, yw'r dull rydym wedi'i fabwysiadu mewn perthynas â hynny, a byddwn yn parhau i wneud hynny mewn perthynas â'r holl gytundebau masnach eraill y mae Llywodraeth y DU yn ceisio eu negodi.