Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol ar y papur trefn. Fel y nodais yr wythnos diwethaf, yn dilyn cyngor gan y prif swyddog meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, argymhellwyd bod ysgolion uwchradd yn dechrau dysgu o bell o 14 Rhagfyr tan ddiwedd y tymor. Fel y gŵyr pawb yn y Siambr hon yn dda, mae cyfraddau trosglwyddo yn cynyddu ar hyn o bryd, ac yn anffodus rydym ni ar y trywydd iawn i gael 2,500 o bobl yn yr ysbyty erbyn Dydd Nadolig yn dioddef o'r coronafeirws.
Er fy mod i wrth fy modd gyda'r cynnig yr oeddem yn gallu ei wneud ddoe ynglŷn â phrofi'r rhai asymptomatig mewn ysgolion, a'r cyhoeddiad am raglen frechu a ddechreuodd yr wythnos diwethaf, bydd yr ymyriadau hyn a'r prosesau hyn yn cymryd amser i ddod i rym. Mae angen inni barhau i roi'r cyfyngiadau angenrheidiol ar waith i ddiogelu'r GIG ac i achub bywydau.
Rydym ni yn cydnabod, fel y gwnaethom ni yn ystod y cyfnod atal byr, ei bod hi'n llawer anoddach i blant oedran ysgol gynradd a'r rhai sydd mewn ysgolion arbennig, ddysgu ar eu cymhelliant eu hunain. Dyna pam yr ydym ni wedi annog ysgolion cynradd ac arbennig i barhau i aros ar agor, oni bai, wrth gwrs, fod rhesymau cadarn a chlir dros iechyd a diogelwch y cyhoedd iddyn nhw beidio â gallu gwneud hynny. Ar ôl siarad ag arweinwyr addysg lleol, rydym ni yn fwyfwy hyderus bod gan ysgolion a cholegau y dulliau dysgu ar-lein ar waith i barhau i sicrhau bod ein pobl ifanc yn parhau i ddysgu.
Fodd bynnag, Dirprwy Lywydd, mae'n bwysig iawn imi ddatgan hyn: nid gwyliau Nadolig cynnar yw hwn. Yn hollbwysig, dylai ein disgyblion uwchradd ac addysg bellach fod yn dysgu gartref ar hyn o bryd. Mae angen i bob un ohonom ni wneud yr hyn y gallwn ni ei wneud i leihau cyswllt ag eraill, ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i hynt y feirws hwn ac, yn y pen draw, i achub bywydau. Byddwn yn apelio ar bobl ifanc Cymru sydd wedi gweld tarfu ar eu haddysg yn yr ysgol unwaith eto i ddilyn y cyngor hwn.
Rwyf hefyd eisiau bod yn glir bod ysgolion yn lleoliadau sy'n cael eu rheoleiddio a'u rheoli, ac nid oes tystiolaeth newydd i awgrymu nad yw ysgolion yn ddiogel mwyach. Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r trosglwyddo yn parhau i fod drwy gysylltiadau a gweithgareddau cymunedol cysylltiedig â'r ysgol, yn hytrach nag amgylchedd yr ysgol ei hun. Wrth i ni ddechrau brechu, gallwn fod yn gadarnhaol iawn ar gyfer gwell 2021. Ond, ar hyn o bryd, mae'n rhaid i ni fod yn ofalus, ac mae'n rhaid i ni barhau i weithio gyda'n gilydd i gadw Cymru'n ddiogel ac i sicrhau fod ein pobl ifanc yn parhau i ddysgu.