Mawrth, 15 Rhagfyr 2020
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy...
Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Reckless.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lefel y gefnogaeth ar gyfer ei chyfyngiadau coronafeirws? OQ56070
2. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i adolygu'r cyngor y mae wedi'i gael ynghylch mynd i'r afael â phandemig y coronafeirws? OQ56051
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac felly yn gyntaf arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal o'r capasiti sydd ar gael i ddarparu brechiadau COVID-19? OQ56032
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyrwyddo treftadaeth canolbarth Cymru? OQ56034
5. Pa gyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu i fusnesau yng Nghanol De Cymru yn ystod pandemig COVID-19? OQ56071
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith y coronafeirws ar economi Dwyrain De Cymru? OQ56047
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth i fusnesau Ynys Môn yn ystod y pandemig? OQ56065
8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran rheoli achosion COVID-19 yng Nghaerffili? OQ56069
Yr eitem nesaf felly yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Vikki Howells.
1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i lochesi i fenywod yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19? OQ56035
2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ymdrechion i wella cydlyniant cymunedol yng Ngogledd Cymru? OQ56038
3. Sut y mae'r Dirprwy Weinidog yn ymgysylltu â phobl ifanc yng Nghymru mewn perthynas â materion cydraddoldeb a hawliau dynol? OQ56030
4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i'r trydydd sector yng Nghymru, mewn ymateb i bandemig COVID-19? OQ56024
5. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i fynd i'r afael â thrais domestig yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56052
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf felly yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro, a gwneud hynny i alluogi dadleuon ar eitemau 7, 8 a 9. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y cynnig hwnnw.
Ac yn ail felly, cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i alluogi dadl ar eitem 17. Galw ar y Trefnydd i wneud y cynnig hwnnw'n ffurfiol.
Mae eitem 3 wedi ei ohirio ac felly fe fyddwn ni'n cymryd egwyl fer nawr tra bod yna newidiadau yn cael eu caniatáu yn y Siambr. Egwyl fer, felly.
Rydym ni am ailddechrau'r cyfarfod llawn gydag eitem 4 ar ein hagenda, sef datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd. Rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y...
Felly, fe symudwn ni ymlaen ac rwyf i am alw ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2020, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig....
Eitem 9 ar yr agenda yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Mangre Ysgol a Mangre Sefydliad Addysg Bellach) (Cymru) 2020. Galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig y...
Eitem 10 ar yr agenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaeth Arbed) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020, a galwaf ar y...
Eitem 11 ar ein hagenda yw Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau...
Eitem 12 yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020, a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
Felly, galwaf ar Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Eitem 15 ar ein hagenda y prynhawn yma yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2020, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig y cynnig—Jeremy Miles.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 3 a 4 yn enwau Gareth Bennett a Mark Reckless, gwelliant 6 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 7 a 9 yn enw Siân Gwenllian. Yn unol â Rheol...
Nawr, yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitemau 18 ac 19 sy'n ymwneud â'r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) eu grwpio ar gyfer...
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020. Dwi'n galw am...
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i chwaraeon proffesiynol yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ffactorau a allai rwystro'r berthynas rhwng Cymru ac Ewrop yn 2021?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia