Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma? O ran y sylwadau a wnaed gan Mick Antoniw, mae Llywodraeth Cymru yn cytuno bod anghysondeb rhwng y pwerau galluogi a nodwyd yn y testun Cymraeg a'r testun Saesneg—cyfeirir atynt yn adran 45(3)(c) yn y testun Cymraeg, ac yn 45(3) yn y testun Saesneg. Gwall teipograffyddol yw hwn yn y testun Saesneg, nad yw'n effeithio ar ddilysrwydd y rheoliadau.
O ran ymgynghori, mae'n wir nad oedd unrhyw ymgynghoriad ffurfiol yn bosib, o ystyried y sefyllfa frys y cawsom ein hunain ynddi, er ein bod, o fewn awr i gael y cyngor gan y prif swyddog meddygol, wedi gallu cyfarfod â swyddogion o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac wedyn gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru i drafod y sefyllfa yr oeddem ni ynddi, ac nid oedd gwrthwynebiad gan y naill na'r llall. Rydym ni wedi trafod o'r blaen, o'r hyn yr ydym ni wedi ei ddysgu o'r cyfnod atal byr, rhai o'r materion y mae angen inni fod yn ymwybodol ohonyn nhw, gan roi sylw arbennig i addysg dysgwyr sy'n agored i niwed, ac rydym ni wedi ceisio rhoi hyblygrwydd i sicrhau y gellir darparu ar gyfer y dysgwyr hynny sy'n agored i niwed yn eu hysgol uwchradd neu golegau addysg bellach yn ystod yr wythnos hon.
Gan droi at y sylwadau a wnaeth Suzy Davies. Rydych chi yn llygad eich lle: mae cydbwysedd o agweddau negyddol a chadarnhaol y mae'n rhaid eu harchwilio yn ystod yr adegau hyn, ac mae gweithgarwch dadleoli plant y tu allan i leoliad a reoleiddir yn destun pryder i mi, ond mae'r cydbwysedd risgiau hynny'n newid, ac maen nhw'n newid yn gyflym. Roedd hi'n ofid mawr imi gael y cyngor gan y prif swyddog meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond, ar ôl cael cyngor o'r fath, mae'n ddyletswydd arnaf weithredu arno. Fel y dywedais, gwnaethpwyd y cyhoeddiad o fewn oriau i gael y cyngor hwnnw. Ni allem ni fod wedi gweithredu yn gyflymach. Sylweddolaf y digwyddodd hynny ar fyrder, ond fy mlaenoriaeth drwy gydol hyn fu ceisio sicrhau bod plant yn dysgu wyneb yn wyneb cyhyd ag y gallwn ni wneud hynny. Ac, yn amlwg, oherwydd yr effaith ar hawliau plant, rhaid cael angen dybryd o ran iechyd y cyhoedd i warafun iddyn nhw eu hawl i ddysgu wyneb yn wyneb, ac, yn absenoldeb cyngor gan y Prif Swyddog Meddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, nid wyf ar fin gwadu'r hawliau hynny iddyn nhw, oni bai ein bod mewn sefyllfa frys, ac ni fyddwn wedi cael y cyngor hwnnw cyn hynny. Ond mae'n golygu y gwneir penderfyniadau, yn wir, ar fyrder
Cododd Siân Gwenllian a Suzy Davies fater gofal plant. A gaf i fod yn gwbl glir, nid ydym ni wedi gofyn i ysgolion nac addysg ddarparu gofal plant ers hanner tymor y Sulgwyn. Ni wnaethom ni ofyn i ysgolion ddarparu gofal plant yn ystod gwyliau'r haf nac yn ystod y gwyliau hanner tymor. Ond, yn amlwg, un o'r materion y mae addysgwyr yn teimlo fwyaf balch yn ei gylch yw, wrth iddyn nhw barhau i ddysgu wyneb yn wyneb, mae hynny'n caniatáu i'n gweithwyr allweddol, gan gynnwys aelodau o'n staff iechyd a gofal cymdeithasol, fwrw ymlaen â'u swyddi. Ac fe wn i fod llawer o athrawon yn teimlo'n falch iawn o'u swyddogaeth ar flaen y gad i ganiatáu i weithwyr rheng flaen eraill barhau i ofalu am bob un ohonom ni a'n diogelu. Ond gadewch i ni fod yn gwbl glir: nid ydym ni yn gofyn iddyn nhw ddarparu gofal plant; rydym ni'n gofyn iddyn nhw ddarparu addysg briodol. Ond, yn amlwg, mae hyn yn effeithio ar deuluoedd, ac rwy'n gresynu at hynny. Rwyf wirioneddol yn gresynu.
Soniodd Siân Gwenllian hefyd am fater rhaniad digidol. Rydym ni wedi gwneud cynnydd sylweddol. Mae llwyddiant Llywodraeth Cymru yn hyn o beth wedi'i nodi gan felinau trafod addysgol annibynnol y tu allan i Gymru. Ond, yn amlwg, mae angen i ni wneud mwy bob amser. Dyna pam yr ydym ni wedi sefydlu grŵp gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru i ddeall beth sy'n ein rhwystro o hyd rhag cefnogi dull dysgu o bell, digidol a chyfunol.
Rwy'n cwrdd â phenaethiaid bob wythnos. Heddiw, cyfarfûm â phennaeth dros dro ysgol gynradd Illtyd Sant ym Mlaenau Gwent, ac roedd hi'n fodlon cadarnhau wrthyf fod pob un teulu a oedd wedi gofyn am gymorth TG, boed hynny gyda chysylltedd neu gyda dyfais ddigidol, wedi cael y gefnogaeth honno sy'n angenrheidiol. Ac rydym ni'n gweithio'n agos gydag awdurdodau addysg lleol i nodi ysgolion nad ydyn nhw wedi bod yn y sefyllfa ffodus honno.
Gallaf gadarnhau bod offer a dyfeisiau TG newydd yn cael eu hanfon i ysgolion yn rheolaidd ac, erbyn mis Chwefror, rhagwelwn y byddwn wedi darparu 133,000 o ddarnau newydd o offer i ysgolion Cymru i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Yn anffodus, mae pawb yn ddiwahân yn ceisio cael gafael ar offer TG ar hyn o bryd, ac rwy'n cydnabod y bu rhywfaint o oedi wrth ddarparu archebion rhai ysgolion, ond rydym ni yn gweithio, cyn gynted ag y gallwn ni, i fynd i'r afael â hynny, ac, fel y dywedais, erbyn mis Chwefror, rwy'n ffyddiog y byddwn ni wedi gallu dod o hyd i 133,000 o ddyfeisiau ychwanegol i ysgolion i sicrhau, lle mae'n rhaid i ni, yn anffodus, wneud y penderfyniadau hyn, y gall disgyblion barhau i ddysgu.