Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai fod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitem 13 ar ein hagenda ac eitem 14—eitem 13 yw'r Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2020, ac 14, Rheoliadau Masnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Cysylltiedig (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2020—eu cyfuno i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes.