17. Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:14 pm ar 15 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 5:14, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Dirprwy Lywydd, mae'r ffigurau'n ddeunydd darllen llwm yr wythnos Nadolig hon. Cadarnhawyd dros 30,000 o achosion yn ystod y saith diwrnod diwethaf, ac roedd un o bob pum prawf a gynhaliwyd yng Nghymru yn gadarnhaol. Mewn rhai rhannau o'r de, rydym yn gweld cyfraddau sylweddol iawn o'r haint—sy'n fwy nag unrhyw beth yr ydym ni wedi'i brofi eleni.