17. Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 15 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 5:27, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Rwy'n falch y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi ein gwelliant y prynhawn yma.

Mae'n destun pryder mawr gweld bod achosion yng Nghymru yn parhau i gynyddu, ac felly rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r ddadl hon ac wedi cyhoeddi cynllun rheoli ar gyfer y coronafeirws, fel y gall cymunedau a busnesau ddeall y mesurau sydd wedi'u rhoi ar waith i reoli lledaeniad y feirws. Rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn croesawu cynigion Llywodraeth Cymru i ddefnyddio lefelau fel meincnod i sicrhau diogelwch cyhoeddus Cymru, a chroesawaf y ffaith fod y Prif Weinidog wedi cadarnhau, pan fo'n briodol, y gellid amrywio'r lefelau rhybudd hyn mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru wrth fabwysiadu dull gweithredu wedi'i dargedu'n well, yn hytrach na dim ond dull gweithredu sy'n addas i bawb.

Dirprwy Lywydd, mae hefyd yn bwysig bod gan bobl Cymru ffydd yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ymdrin â phandemig y coronafeirws wrth fwrw ymlaen, ac felly mae cyhoeddi'r ddogfen hon i'w groesawu'n fawr gan ei bod yn egluro prosesau gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru i'r cyhoedd. Nawr, wrth gwrs, dangosodd arolwg barn diweddar gan YouGov fod gan lai o bobl ffydd yn strategaeth gyffredinol y Llywodraeth wrth reoli'r pandemig, ac mae'n hanfodol bod gan y cyhoedd ffydd yn y penderfyniadau a wneir ar eu rhan. Mae'r arolwg barn hwn yn dangos pwysigrwydd ymgysylltu â phobl Cymru a chyfathrebu'n glir, er mwyn i bobl deall yn union pam y mae'n rhaid gweithredu.

Nawr, rhaid i ni beidio â cholli golwg ar y ffaith bod yna frechlyn, ac mae'n gam cadarnhaol iawn i weld byrddau iechyd yng Nghymru yn rhoi brechlynnau i grwpiau blaenoriaeth fel gweithwyr rheng flaen y GIG. Mae darparu'r brechlyn hwnnw a brechu pobl yn gwbl hanfodol i ddileu COVID-19 o'n cymunedau, ac wrth i ni weld mwy a mwy o bobl ledled Cymru yn cael eu brechu, bydd hynny hefyd yn effeithio ar ffydd pobl ac ar lefel y mesurau a allai fod ar waith. Fodd bynnag, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, mae'r ffigurau presennol yn llwm. Cymru sydd â'r gyfradd heintio uchaf yn y DU, ac mae wyth o'r 10 ardal heintiedig waethaf yn y DU yma yng Nghymru, a'r tair ardal uchaf yw Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr. Felly, rydym ni wedi cyrraedd sefyllfa lle mae'n rhaid i ni gydnabod nad yw'r ymyrraeth bresennol yn rhwystro trosglwyddiad y feirws.

Wrth gwrs, wrth i nifer yr achosion gynyddu, mae'r pwysau ar gapasiti ac adnoddau'r GIG hefyd yn cynyddu, ac, fel y gwelsom ni, mae byrddau iechyd mewn rhai rhannau o Gymru o dan bwysau sylweddol ac yn ei chael hi'n anodd ymdopi. Fel y cyfeiriwyd ato'n gynharach, gwyddom fod dros 2,000 o welyau yng Nghymru yn cael eu defnyddio ar gyfer cleifion COVID-19, ac mae un o bob 10 aelod o staff y GIG yn sâl neu'n hunanynysu ar hyn o bryd, sydd hefyd yn effeithio ar y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym ni wedi gweld dau fwrdd iechyd yn atal gwasanaethau a thriniaethau nad ydyn nhw'n rhai brys yn dilyn y cynnydd yn lledaeniad COVID-19 a'r galw arferol yn y gaeaf am ofal brys. Ac ar ben hynny i gyd, mae'r gyfradd achosion a gadarnhawyd yn sylweddol fwy na 300 o achosion fesul 100,000 o bobl. Felly, yng ngoleuni'r holl weithgarwch hwn a phwysau ar wasanaethau'r GIG, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym ni nawr pryd y mae'n bwriadu gwneud penderfyniadau pellach ynglŷn â'r camau nesaf y mae angen iddi eu cymryd i ymladd y feirws hwn. Yr hyn sydd ei angen ar unigolion, teuluoedd a busnesau nawr yw sicrwydd wrth symud ymlaen, felly mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ynghylch y camau nesaf i atal y feirws cyn gynted â phosib, oherwydd mae angen i bobl, busnesau a'n gweithwyr rheng flaen wybod beth sy'n digwydd cyn gynted â phosib fel y gallant gynllunio at y dyfodol.

Dirprwy Lywydd, nid ein gwasanaethau iechyd ni yn unig sy'n wynebu trafferthion, mae ein busnesau ni hefyd. Mae ffigurau heddiw wedi cadarnhau mai Cymru a brofodd y cynnydd mwyaf serth mewn diweithdra rhwng mis Awst a mis Hydref o unrhyw genedl neu ranbarth yn y DU, ac mae hynny wir yn dangos sut y mae'r pandemig wedi effeithio ar fywoliaeth. Ni fydd y ffigur hwnnw ond yn tyfu os cyflwynir cyfyngiadau pellach, ac nid ydym yn gweld y darlun cyfan yn llwyr gan fod cynllun ffyrlo Llywodraeth y DU wedi parhau i gadw pobl ar y gyflogres, ac felly dim ond ychydig fisoedd ar ôl i'r cynllun hwnnw ddod i ben y byddwn ni'n gallu gweld, yn anffodus, faint o swyddi a gollwyd ledled Cymru. Yn y cyfamser, mae busnesau'n ei chael hi'n anodd goroesi, ac mae'n gwbl hanfodol eu bod yn gallu cael gafael ar gyllid cyn mis Ionawr, gan fod yr wythnosau rhwng nawr a hynny heb gymorth yn amser rhy hir i fusnesau aros.

Nawr, rwy'n croesawu'r newyddion y bydd y lluosydd ardrethi annomestig yn cael ei rewi ar gyfer 2021-22, ond gadewch inni gofio bod gan Gymru'r gyfradd uchaf o ardrethi busnes ym Mhrydain Fawr o hyd, felly nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru nid yn unig i rewi ardrethi busnes, ond i fynd ymhellach a gwneud mwy i gefnogi busnesau sy'n parhau i frwydro yn erbyn cefndir pandemig COVID. Wrth gwrs, yn sail i'r cynllun hwn i reoli'r coronafeirws mae'r angen am becyn cymorth ariannol cryf, fel y gall y cyhoedd, pan fydd Cymru'n symud rhwng lefelau rhybudd yn y cynllun, fod yn ffyddiog bod gan Lywodraeth Cymru gyllid ar gael i gefnogi'r bobl a'r busnesau hynny sydd ei angen. Mae hyn yn gwbl hanfodol.

Dirprwy Lywydd, rydym ni i gyd eisiau gweld cefn y feirws ofnadwy hwn, a defnyddio'r brechlyn yw dechrau'r daith honno, ond mae gennym ni ffordd bell i fynd o hyd. Bydd fy nghydweithwyr a minnau'n gwneud yr hyn a allwn ni i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth Cymru lle y gallwn ni, a lle mae angen gofyn cwestiynau a lle mae angen rhagor o dystiolaeth, byddwn yn parhau i holi. Nawr yw'r amser ar gyfer gweithio trawsbleidiol gwirioneddol i achub bywydau a diogelu bywoliaethau, felly, croesawaf gyhoeddi cynllun rheoli'r coronafeirws, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn dweud yn glir wrth bobl Cymru pryd a sut yn union y mae'n bwriadu atal nifer yr achosion yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at weld mwy o'r manylion hynny yn y dyddiau nesaf ac yn yr wythnosau nesaf. Diolch.