Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Dyma ni unwaith eto yn ymateb i sefyllfa sy'n gwaethygu, ac, o le bynnag rydym ni'n edrych yng Nghymru, mi ddylai pawb, dwi'n gobeithio, allu cydnabod bod hwn yn argyfwng, p'un ai rydym ni ein hunain yn byw mewn ardal lle mae nifer yr achosion yn isel, neu yn yr ardaloedd eang iawn hynny sydd wedi gweld cynnydd brawychus yn nifer yr achosion o COVID-19 yn yr wythnosau diwethaf. Wnaf i ddim treulio amser heddiw ar beth ddigwyddodd yn dod allan yn rhy sydyn o'r firebreak, a heb strategaeth gynaliadwy, efallai, yn ei lle, achos trafod cynllun newydd rydym ni, a'r angen eto am newid cyfeiriad.
Mewn egwyddor, dwi'n meddwl bod y system o gael lefelau fel hyn, o wyrdd drwodd at ddu, yn syniad da, ond mae penderfynu, wrth gwrs, pa lefel y dylem ni fod ynddi, yn genedlaethol ac mewn gwahanol rannau o Gymru, yn gwbl, gwbl allweddol rŵan, a dydy'r penderfyniadau ddim yn hawdd.
O ran y gweithredu rhanbarthol, yna mi fyddwn ni'n cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr heddiw. Mae ein gwelliant cyntaf ni hefyd yn cyfeirio at yr un peth, ond yn cyfeirio hefyd at beth all gweithredu ei olygu. Mae yna ddwy agwedd i gamau gweithredu'r Llywodraeth sy'n cael eu cyfeirio atyn nhw yn y gwelliant yna—cyfyngiadau a chefnogaeth—ac mae yna werth, heb os, i gael lefel sylfaenol o reolau cenedlaethol. Does yna un ardal yn imiwn i'r feirws yma, ond, lle mae achosion ar eu huchaf, mae'n gwneud perffaith synnwyr i fi fod yna le i weithredu'n wahanol. Gall, mi all hynny olygu cyfyngiadau, ond, ochr yn ochr â hynny, mae'n rhaid i'r Llywodraeth allu cynnig lefel uwch o gefnogaeth hefyd.
Mae yna lawer o wledydd, llawer o ardaloedd, dinasoedd ac ati wedi profi llwyddiant yn rheoli'r feirws wrth wneud yn siŵr bod gan bobl y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw i hunanynysu. Dydy Llywodraeth Cymru na Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim wedi bod yn effeithiol yn y maes yma, ac mae astudiaethau yn dangos mai lleiafrif sydd yn gwneud beth sydd ei angen i hunanynysu yn llwyddiannus. Felly, rhowch gefnogaeth ariannol mwy, fel bod pobl yn gwneud y dewis iawn i aros gartref. Rhowch gefnogaeth ymarferol—mynd â gwasanaethau hanfodol at ddrws rhywun yn hytrach na eu bod nhw'n cael eu temtio i adael cartref i chwilio am y gwasanaethau hynny. Rhowch bobl mewn gwesty, fel mae llawer o wledydd wedi'i wneud, fel bod eu teuluoedd nhw yn ddiogel, a rhowch gefnogaeth emosiynol hefyd.
Yr ail welliant sydd gyda ni, gwnaf i adael i Helen Mary Jones ymhelaethu ar hynny. Sôn am gyfathrebu a thrafod yn effeithiol efo busnesau a sefydliadau eraill wrth baratoi am y dydd pan gawn ni ddechrau ailagor rydym ni yn y gwelliant hwnnw, ac rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at y dydd hwnnw. Ond mae rhoi'r camau gweithredu cywir ar waith rŵan yn mynd i ddylanwadu'n drwm, wrth gwrs, ar bryd ddaw y dydd hwnnw. Dwi'n caru cyfnod y Nadolig, ond dwi'n gobeithio gwnaiff y Llywodraeth dderbyn ein cynnig ni i gymryd rhan mewn trafodaethau amlbleidiol ar beth i'w wneud o gwmpas cyfnod yr wŷl, sut i gryfhau rheolau ar un llaw, y negeseuon ar y llaw arall, yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig ac, ie, yn y pum diwrnod yna o gwmpas y Nadolig ei hun. Mae hyn yn effeithio ar bawb ohonom ni.
Os caf i gloi drwy gyfeirio eto at y cynllun gyhoeddwyd ddoe, dydy dweud yn syml, fel y mae o, mai ymddygiad pobl ar ôl y firebreak oedd ar fai—hynny ydy, doedd yr ymddygiad ddim yn rhoi'r canlyniadau roeddem ni eu heisiau inni—dydy hynny ddim yn ddigon da. Oes, mae yna gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i ymddwyn mewn ffordd sydd yn cadw'n hunain, y bobl o'n cwmpas ni a'n cymunedau ni yn saff, ond mae'r ymddygiad yna yn digwydd o fewn cyd-destun sy'n cael ei osod gan y Llywodraeth. Ac mae camau sy'n cael eu cymryd gan y Llywodraeth a negeseuon y Llywodraeth, ac ati, yn dylanwadu'n drwm iawn ar yr ymddygiad hwnnw, a gadewch inni gofio hynny.