Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol ac rydym eisiau cydnabod y ffordd y maen nhw wedi llwyddo i brosesu taliadau ar gyfer cymorth busnes. Mae gennym y pecyn mwyaf hael o gymorth busnes yn y DU, ond mae hynny ond yn cyrraedd llawer o fusnesau oherwydd y gwaith y mae ein staff llywodraeth leol wedi'i wneud. Ac rwy'n gwybod bod od y Gweinidog llywodraeth leol a Gweinidog yr economi yn ddiolchgar iawn i staff llywodraeth leol am ein galluogi i wneud hynny.
Rwyf yn cydnabod y sylwadau a wnaeth Adam Price ynghylch a allwn ni aros tan 28 Rhagfyr. Mae Gweinidogion yn ystyried bob dydd y dewisiadau a wnawn a phryd y mae angen i ni eu gwneud. Gwnaeth Adam Price, a nifer o aelodau eraill, sylwadau am y niwed sydd eisoes wedi'i achosi. Mae'n realiti na ellir ei gwadu bod cyfraddau marwolaethau ychwanegol yng Nghymru, yn fwy diweddar, wedi bod yn uwch nag yn Lloegr ac mae hynny'n wahanol i gwrs y pandemig, oherwydd dros y pandemig cyfan, o ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol a gyhoeddwyd hyd yma, cafwyd 13 y cant o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru—mae hynny dros 3,000 o farwolaethau ychwanegol yn uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru—o'i gymharu â 19 y cant o farwolaethau ychwanegol yn Lloegr. O ran y naill gyfrifiad neu'r llall, mae hynny'n swm sylweddol o niwed a achoswyd eisoes, ac mae'n sail i'r rheswm pam y mae'r Llywodraeth yn parhau i orfod ystyried camau eithriadol yn y dyfodol i gadw pobl Cymru'n ddiogel. Nid wyf wedi gweld y llythyr y mae Adam Price yn dweud iddo ei anfon at y Prif Weinidog, ond bydd unrhyw ddulliau adeiladol ynghylch sut y gallem ni gyrraedd setliad yn y dyfodol i'w croesawu a byddan nhw'n cael eu trafod.
Nawr, o ran profi, olrhain a diogelu, dylwn i dynnu sylw at y ffaith y bu traean yn fwy o staff profi, olrhain a diogelu yn ystod y cyfnod atal byr. Rydym wedi llwyddo i gynnal perfformiad effeithiol hyd yma a'r hyn sy'n peryglu ein perfformiad nawr ac yn y dyfodol yw'r don barhaus o alw sy'n parhau i godi bob wythnos. Yn ystod yr wythnos diwethaf, yr oeddem ni'n dal i gyrraedd 81 y cant o gysylltiadau, ond ein pryder yw pa mor gyflym y gallwn ni gyrraedd y cysylltiadau hynny, am ba hyd y gallwn ni barhau i berfformio ar y lefel uchel honno, ac mae'r galw'n adlewyrchu realiti trosglwyddo ar draws ein cymuned. Ni allwn fynnu bod profi, olrhain a diogelu yn parhau i insiwleiddio pobl rhag canlyniadau lledaeniad cyflym y feirws drwy ein cymunedau.
Hoffwn ddiolch i Dawn Bowden ac eraill am eu cydnabyddiaeth o'r dewisiadau anodd y mae Gweinidogion yn eu hwynebu. O ran y pwynt am brofion torfol, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod â'r dadansoddiad y mae Dawn Bowden eisoes wedi gofyn amdano am effaith profion torfol ym Merthyr Tudful. Rwy'n edrych ymlaen at weld hynny'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach i helpu i benderfynu ar ddewisiadau eraill y gallwn ni eu cymryd. Rwyf yn cydnabod ei phwynt, a'r pwynt a wnaethpwyd gan Joyce Watson hefyd, ynghylch y gweithredu ar y cyd y mae angen i ni ei gymryd i wella ein hiechyd a'n dyfodol economaidd, ac mae hynny'n cyd-fynd â chyfrifoldeb personol.
Roeddwn i'n ddiolchgar i David Melding am ei ymateb pwyllog a chefnogol o ran cydnabod yr angen i weithredu gyda'r rheoliadau yr ydym ni wedi'u cyflwyno, ac yn yr un modd dangos ei fod ef ac eraill yn dweud y bydden nhw'n ystyried cefnogi gweithredu cyn y Nadolig yn ogystal ag ar ôl. A hefyd y posibilrwydd o newidiadau rhanbarthol yn y dyfodol a nododd Jack Sargeant, unwaith eto, y byddai'n dymuno eu gweld, os a phryd y mae'n ddiogel gwneud hynny, ac rydym ni'n nodi hynny fel bwriad a phosibilrwydd gwirioneddol yn y cynllun rheoli COVID wedi'i ddiweddaru yr ydym ni wedi'i gyhoeddi.
Nawr, gan droi at Rhun ap Iorwerth, rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y cyfnod atal byr wedi gweithio: fe wnaeth leihau heintiau'n sylweddol. Yr hyn na weithiodd oedd y cytundeb newydd ar newid ymddygiad ar ôl i'r cyfnod atal byr ddod i ben. Gyda'n gilydd, fe wnaethom ni ddychwelyd at batrymau ymddygiad mwy arferol cyn y cyfnod atal byr a dyna sy'n ein harwain ni at y sefyllfa sy'n ein hwynebu heddiw.
Rwyf yn cydnabod yr alwad am fwy o gymorth, gan gynnwys cymorth i bobl sy'n ynysu. A'n her gyson yw'r hyn a wnawn am roi negeseuon am y gefnogaeth yr ydym ni eisoes wedi'i darparu, ond hefyd y realiti bod yn rhaid i bob darn ychwanegol o gymorth yr ydym yn ei ddarparu yn dod o rywle, a'n her yn y gyllideb, y pwysau ychwanegol y mae iechyd yn ei wynebu, y pwysau ychwanegol y mae busnesau'n ei wynebu, a'n gallu wedyn i gael mwy o arian i gefnogi unigolion i wneud y peth iawn iddyn nhw, eu teulu, eu cymuned ac, wrth gwrs, y wlad. Ond rwy'n cydnabod bod gan y Llywodraeth ran i'w chwarae o ran arwain a llywio'r drafodaeth ac wrth ddylanwadu ar ymddygiad, ond ni allwn bennu dewisiadau ymddygiadol ar gyfer pob aelod o'r cyhoedd. Dyna pam rwy'n croesawu'r pwyntiau a wnaed gan Aelodau ar draws y rhaniad gwleidyddol yn y Siambr am gyfrifoldeb personol.
Yn barchus, nid oeddwn yn cytuno â llawer o'r hyn a oedd gan Caroline Jones i'w ddweud. Nid wyf yn derbyn mai'r rheswm pam nad oes gennym ni un dull gweithredu ledled y DU yw oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cydweithredu â Llywodraethau eraill—mae hynny'n ymhell o fod yn wir. Rydym ni wedi galw'n rheolaidd am fwy o gydweithredu rhwng Llywodraethau'r DU i ddeall y cyd-destun yr ydym ni i gyd yn gweithredu ynddo, i gael cymaint o gyffredinedd ag sy'n bosibl, a dyna lle'r ydym ni fel Llywodraeth o hyd. Rydym ni eisiau gweld dulliau mwy cyffredin o helpu'r cyhoedd i ddeall yr hyn y gofynnwn iddyn nhw ei wneud a pham, a dyma'r dull a ddefnyddiwn o hyd wrth ymgysylltu â phob un o'r Llywodraethau yn y Deyrnas Unedig.
Diolch i Lynne Neagle am ei disgrifiad byw o'r pwysau ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwent. Mae Aelodau ym Mae Abertawe, Aelodau Cwm Taf Morgannwg yn eu hwynebu hefyd, ac, yn wir, byddai Aelodau Caerdydd a'r Fro hefyd yn cydnabod y pwysau hynny. Ac mae arnaf ofn y bydd Aelodau Hywel Dda, gan feddwl eto am sylwadau Joyce Watson, yn gweld y rheini fel pwysau cynyddol yng ngorllewin Cymru hefyd. Ac rydym ni'n gweld achosion o'r coronafeirws yn cynyddu yn y gogledd. Mae hon yn frwydr genedlaethol wirioneddol sy'n ein hwynebu yn erbyn y feirws ac nid yn un lleol neu ranbarthol, ac mae angen i bob un ohonom ni chwarae ein rhan.
Gobeithio bod Helen Mary Jones yn fodlon â'r ffaith ein bod ni'n cydnabod bod angen i gynghorwyr gwyddonol ymgysylltu â gwahanol sectorau busnes. Yn wir, mae hynny eisoes wedi digwydd gyda chynrychiolwyr y sector yr ydym ni wedi'u trafod—nid ydyn nhw wedi siarad â Gweinidogion yn unig, maen nhw wedi ymgysylltu â chynrychiolwyr o adran y prif swyddog meddygol neu'r prif gynghorydd gwyddonol ar adran iechyd i geisio egluro'r dystiolaeth sy'n sail i bob un o'r dewisiadau y gwnaethom ni. Ond rydym yn hapus i gadarnhau mai dyna'r dull y byddwn ni'n parhau i'w gymryd gan fod yn rhaid i ni wneud dewisiadau anodd.
Diolch i Carwyn Jones am ei sylwadau hefyd, ac, fel arfer, roedd gwahaniaeth rhwng y sylwadau a wnaeth Carwyn Jones am Sweden fel model na ddylid ei ddilyn a Neil Hamilton, sy'n parhau i fod eisiau i ni wneud hynny. Fel arfer, bu methiant i gymharu Sweden â realiti'r hyn sydd wedi digwydd yn y Ffindir, Norwy a Denmarc—gwledydd sy'n cymharu'n llawer mwy taclus â'r ffordd y mae'r poblogaethau hynny'n ymateb i'w Llywodraeth a'r sefyllfa ymarferol ynddynt. Nid wyf yn credu bod Sweden yn fodel i Gymru nac i unrhyw ran o'r DU ei ddilyn. Rwy'n credu, serch hynny, pan soniwn ni am imiwnedd torfol, ei bod yn bwysig cydnabod y gall imiwnedd torfol ddod o amddiffyniad gan frechlyn, a phan wnaeth Carwyn Jones ei sylwadau, rwy'n glir iawn ei fod yn dweud na ddylai hynny ddod o oroesiad y rhai mwyaf heini, na chwaith adael ein trigolion mwyaf agored i niwed i'w tynged. Ni fu hynny erioed yn ymagwedd y Llywodraeth hon, ac ni fydd byth. Rwyf eisiau i'n pobl gael eu hamddiffyn gan y brechlyn.
A dyna lle rwy'n credu bod angen i ni orffen, Llywydd. Mae'r cynllun gweithredu yn ymateb i'r argyfwng sy'n ein hwynebu, y realiti y bydd angen i'r Llywodraeth a phob un ohonom ni, yn ein teuluoedd a'n cymunedau, gymryd mwy o gamau yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Mae'r brechlyn yn cynnig gobaith, ond er mwyn cyrraedd yno, mae angen i bob un ohonom ni wynebu'r argyfwng gyda'n gilydd a theithio'r ffordd honno gyda'n gilydd, ac mae angen i bob un ohonom ni weithredu fel nad ydym yn colli pobl ar y ffordd. Efallai fod gennym ddigwyddiadau bywyd eraill i'w dathlu gyda'n gilydd, ond ni allwn ddisodli'r rheini sy'n cael eu colli, y rhai sy'n cael eu colli'n ddiangen.
Bydd y pandemig yn dod i ben. Byddwn ni'n cyrraedd sefyllfa lle byddwn ni'n amddiffyn ein pobl drwy roi sylw effeithiol i frechlyn, ond bydd y camau a gymerwn, ym mhob cartref, ym mhob teulu, yn pennu faint ohonom ni sy'n gorffen y daith hon gyda'n gilydd i helpu i ailadeiladu ein gwlad. Mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae i gadw Cymru'n ddiogel, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n teimlo y gallan nhw gefnogi'r Llywodraeth gyda gwelliannau i'r cynnig heddiw, ond yn fwy na hynny, i gefnogi pob rhan o'n gwlad yn y misoedd anodd sydd o'n blaenau. Diolch, Llywydd.