18. & 19. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 15 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 6:30, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Yn gynharach eleni, ymrwymais i ymgysylltu â'r ddadl ar sefyllfa'r Saesneg yn y Bil, yng nghyd-destun ein huchelgeisiau ar gyfer system wirioneddol ddwyieithog. Roedd yr ymateb i'r arolwg ar ddiwygio'r Bil er mwyn i'r Saesneg ddod yn elfen orfodol yn saith oed yn gefnogol iawn, ac felly rwy'n bwriadu gosod gwelliant yng Nghyfnod 2 i'r perwyl hwnnw. Nodaf sylwadau'r pwyllgor am god Cymraeg, ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid a Chomisiynydd y Gymraeg i ddatblygu'r continwwm Cymraeg clir ar gyfer pob dysgwr cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn cymryd amser a meddwl, ac nid yw llawer o'r heriau sy'n ein hwynebu yn ddeddfwriaethol, ond maen nhw'n ymwneud â'r ffyrdd o weithio, diwylliant a meddylfryd. Nid wyf yn credu y bydd gwneud cod yn ofyniad yn ein helpu ni yn hyn o beth.

Mae'r Gymraeg yn orfodol o dair blwydd oed ar wyneb y Bil, ac mae hynny'n rhoi arwydd clir iawn o'r flaenoriaeth yr ydym yn ei rhoi i hyn. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol ein bod wedi lansio ymgynghoriad ar y canllawiau anstatudol drafft ar gyfer categoreiddio ysgolion yn ôl eu darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rwyf yn cydymdeimlo'n fawr â'r galwadau i wneud hyn yn statudol. Fodd bynnag, mae hynny y tu hwnt i gwmpas Bil cwricwlwm ac asesu, a bydd angen deddfwriaeth ar wahân. Rwy'n gobeithio yn fawr y bydd y Llywodraeth nesaf yn dewis gweithredu yn y ffordd honno.

Nawr, yn fwy nag erioed, mae iechyd meddwl ein dysgwyr mor bwysig. Yng Nghyfnod 2, rwy'n bwriadu cyflwyno dyletswydd i roi sylw i iechyd meddwl a lles emosiynol disgyblion. Bydd y ddyletswydd hon yn rhoi iechyd meddwl mewn sefyllfa unigryw, a bydd yn ystyriaeth ar draws y system i lywio pob penderfyniad y mae ysgol yn ei wneud am gwricwlwm. Mae addysgu iechyd meddwl a lles eisoes wedi'i sicrhau drwy'r cod 'yr hyn sy'n bwysig' arfaethedig, a bydd y gwelliant yn sicrhau y bydd angen i bob penderfyniad lleol sy'n ymwneud â chwricwlwm ystyried effaith iechyd meddwl a lles emosiynol.

Gan droi at grefydd, gwerthoedd a moeseg, hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad i'r holl randdeiliaid, gan gynnwys Dyneiddwyr Cymru a'r Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol, am eu cyfraniadau, yn ogystal â'n partneriaid darparu addysg, gan gynnwys yr Eglwys yng Nghymru a'r Gwasanaeth Addysg Gatholig. Bydd y gwelliannau rwy'n bwriadu eu cyflwyno yng Nghyfnod 2 yn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon a godwyd. Bydd y Bil yn sicrhau bod crefydd, gwerthoedd a moeseg plwraliaethol ar gael i bob dysgwr, tra hefyd yn sicrhau y gall ysgolion o natur grefyddol barhau i weithredu yn unol â'u gweithredoedd ymddiriedolaeth.

Rwyf hefyd yn derbyn argymhelliad 50 y pwyllgor plant a phobl ifanc o ran adran 58 o'r Bil. Mae'r Llywodraeth yn fodlon gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth ar drefniadau asesu mewn rheoliadau. Rwy'n ffyddiog bod yr Aelodau'n gwybod bod fy mhrofiad yn y Senedd ar yr ochr arall yn golygu fy mod wedi ymrwymo'n llwyr i graffu'n briodol ar is-ddeddfwriaeth, ac i gydnabod hyn, rydym ni wedi cymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol i bwerau a dyletswyddau pan fo hynny'n briodol, yn gymesur a'i bod yn ymarferol i wneud hynny.

Rwyf wedi derbyn dau o'r argymhellion i gymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft a wnaed gan y pwyllgor deddfwriaeth, cyfiawnder a’r cyfansoddiad. Yn gyntaf, byddaf yn cyflwyno gwelliannau'r Llywodraeth a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r cod crefydd, gwerthoedd a moeseg ac unrhyw ddiwygiadau dilynol fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol, gan fy mod yn cydnabod bod hwn yn faes sydd o ddiddordeb ehangach i'r cyhoedd. Yn ail, gan fod gan y pŵer o dan adran 50 swyddogaeth gyffredinol, rwy'n cytuno y byddaf yn cyflwyno gwelliannau fel bod unrhyw reoliadau ar eithriadau pellach i'r cwricwlwm hefyd yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol.

Bydd y newidiadau i'r cwricwlwm ym mis Medi 2022 yn sylweddol, a byddaf yn cyhoeddi ein cynllun gweithredu cwricwlwm a rhaglen ymchwil a gwerthuso amlinellol yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Bydd y rhain yn nodi sut y byddwn ni'n dysgu mwy am gynnydd a chost diwygio'r cwricwlwm, i adrodd ar y rhain yn y Senedd nesaf. Yn fy llythyrau at y pwyllgor plant a phobl ifanc a'r Pwyllgor Cyllid yn yr hydref, ymrwymais i ddiweddaru'r asesiad effaith rheoleiddiol i adlewyrchu gwybodaeth a ddarparwyd gan ein rhanddeiliaid allweddol. Rwyf yn cydnabod pwysigrwydd bod â chymaint o eglurder ag sy'n bosibl ar y mater pwysig hwn.

Ni fyddaf yn derbyn y gwelliannau sy'n ymwneud â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn syml iawn, mae hynny wedi'i anelu at wladwriaethau, ac nid yw wedi'i anelu at ddarparwyr gwasanaethau rheng flaen. Drwy'r Bil hwn, bydd yn ofynnol i benaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion gynllunio, mabwysiadu a gweithredu cwricwlwm sy'n cynnwys dysgu ar hawliau plant a'r CCUHP. Mae'r cwricwlwm arfaethedig yn darparu canllawiau clir ar ddysgu ac addysgu ar hawliau dynol, gan gynnwys cyfeiriad penodol at hawliau plant a'r CCUHP. Fodd bynnag, mae'n ddyletswyddau penodol ac ymarferol ar gyrff cyhoeddus a fydd yn arwain at well canlyniadau, a dyma'r dull y byddwn yn ei ddilyn.

Mae'r cod dilyniant a'r cod 'yr hyn sy'n bwysig' yn ddogfennau proffesiynol technegol sydd wedi'u cyd-ddatblygu ag ymarferwyr. Mae'r weithdrefn negyddol yn golygu ein bod yn cydnabod pwysigrwydd canolog barn broffesiynol ymarferwyr ac yn rhoi'r hyblygrwydd i newidiadau gael eu gwneud yn ôl yr angen, ac mae arnaf ofn y byddai agor y rhain i'r weithdrefn gadarnhaol yn cwestiynu dilysrwydd a'r ffydd sydd gan ein proses yn ein gweithwyr proffesiynol.

I gloi, Llywydd, mae hwn yn gam pwysig ar ein taith i gwricwlwm i Gymru, ac yn foment nodedig arall i'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau pawb. Fel y dywedais, rwy'n ddiolchgar am waith y pwyllgorau hyd yma ar y materion hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at y ddadl ymysg fy nghyd-Aelodau y prynhawn yma. Diolch yn fawr.