Part of the debate – Senedd Cymru am 6:46 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl yma, fel dŷch chi'n dweud, fel Cadeirydd y Pwyllgor. Dŷn ni wedi gwneud naw argymhelliad. O ystyried yr amser sydd ar gael, mi wnaf i efallai ganolbwyntio ar rai o'n prif bryderon ni yn y ddadl yma y prynhawn yma.
Fe glywodd y pwyllgor gan y Gweinidog fod y Bil yn darparu'r sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer diwygio'r cwricwlwm a'r gyfundrefn asesu drwyddi draw yng Nghymru, ond dim ond dau opsiwn, neu dau ddewis, mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn ei roi, sef gwneud dim byd, neu ddeddfu. Nawr, rŷn ni'n credu y dylai'r asesiad effaith rheoleiddiol fod yn ffordd bwysig o asesu ystod o ddulliau yn feirniadol, ac wedyn cynnig dull o wneud penderfyniadau polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae'r pwyllgor yn pryderu nad yw asesiadau effaith rheoleiddiol deallus, cynhwysfawr yn gyrru'r broses benderfynu fan hyn. Er bod y pwyllgor yn derbyn y gallai effaith y pandemig fod wedi creu amgylchedd anoddach ar gyfer paratoi'r Bil, rŷn ni'n pryderu bod Llywodraeth Cymru wedi disodli'r memorandwm esboniadol dim ond dau fis ar ôl i'r gwreiddiol gael ei osod. Er nad oedd y newidiadau yn arbennig o berthnasol i ystyried agweddau ariannol y Bil, mae'r cynsail gafodd ei osod yn hynny o beth yn rhywbeth sydd yn peri pryder i ni.
Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn nodi y bydd y cwricwlwm yn cael ei benderfynu ar lefel ysgol, gyda phob ysgol yn cymhwyso gofynion y cwricwlwm yn eu cyd-destunau nhw eu hunain. Felly, does dim jest un sail y gellid ei ddefnyddio i asesu costau'r ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, amcangyfrifir mai ysgolion fydd yn ysgwyddo cyfran sylweddol o'r costau, sef rhwng £146 miliwn a £438 miliwn, neu rhwng 45 y cant a 71 y cant o gyfanswm y costau.
Roedd y fethodoleg a ddefnyddiwyd i amcangyfrif y costau i ysgolion yn seiliedig yn bennaf ar arolwg o 15 ysgol arloesi, gyda'r asesiad effaith rheoleiddiol yn darparu ystod o plws neu minws 50 y cant ar yr amcangyfrif o'r costau. Ond mae'n siomedig na ddefnyddiwyd sampl fwy cynrychioliadol o'r boblogaeth ysgolion ehangach, ac na wnaed gwaith manylach o'r costau i ysgolion ledled Cymru. Mae'n ail argymhelliad yn argymell y dylid felly ymgymryd â'r gwaith yma ac y dylid ei gynnwys mewn asesiad effaith rheoleiddiol diwygiedig.
Mae'r dyletswyddau a osodir ar unedau cyfeirio disgyblion ac addysg heblaw yn yr ysgol yn wahanol i'r rhai a osodir ar ysgolion. Fe gynhaliodd Llywodraeth Cymru ymchwil ar raddfa fach gyda'r rhanddeiliaid hyn. Fodd bynnag, chafodd y costau trosglwyddo na'r costau parhaus ddim o'u cynnwys yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, gan na ystyriwyd eu bod yn ddigon cadarn i'w cyfuno i lefel Cymru gyfan. Fe gadarnhaodd y Gweinidog y byddai'r Bil yn darparu fframwaith i ddysgwyr mewn addysg heblaw yn yr ysgol, gan roi hawl iddyn nhw gael mynediad at y trefniadau cwricwlwm newydd. Fodd bynnag, fe ddywedodd, o ystyried yr ystod eang o wahanol anghenion dysgu yn y sector hwnnw, ei bod yn anodd meintioli costau, oherwydd y dilynir dull sy'n seiliedig ar anghenion, ac felly ni chafodd y costau eu cynnwys. Rŷn ni'n argymell yn ein trydydd argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru wneud gwaith pellach i ddiffinio ac amcangyfrif y costau ar gyfer addysg heblaw yn yr ysgol mewn ymgynghoriad â rhanddeiliaid.
Mi fydd £126.8 miliwn yn cael ei ddarparu i ysgolion ar gyfer dysgu proffesiynol. Fe gadarnhaodd y Gweinidog fod y cyllid a ddyrennir i ysgolion yn cael ei bennu gan fformiwla ariannu. Fe glywsom ni hefyd gan y Gweinidog y rhoddir cyfrif am elfennau eraill o ddysgu proffesiynol mewn gwahanol ffyrdd a bod yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn cael ei hariannu trwy grant blynyddol.
Er mwyn cynorthwyo tryloywder, mae'r pwyllgor yn argymell y dylid cyhoeddi manylion y fformiwla ar sail athrawon a ddefnyddir i ariannu ysgolion yn ogystal â gwybodaeth am y ffyrdd eraill y mae ysgolion yn cael cyllid.
Fe glywsom ni y bu’n rhaid atal yr ymgysylltu â nifer o randdeiliaid allweddol mewn ymateb i bandemig COVID-19, ac fel y soniais ar ddechrau fy nghyfraniad, mae'r pwyllgor yn cydnabod effaith y pandemig hwnnw, wrth gwrs. Fodd bynnag, mae'n siomedig nad oedd y gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi symud ymlaen ymhellach ar ôl cyflwyno'r Bil. Mae hyn yn arwain at nifer o bryderon ynghylch y dystiolaeth a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i wneud y penderfyniadau a amlinellwyd yn y memorandwm esboniadol.
Rŷn ni'n ddiolchgar i'r Gweinidog am roi'r ddiweddariad am ymgysylltu â rhanddeiliaid, a bod hwnnw'n nodi bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o'r sector addysg bellach i drafod yr effaith bosibl ar y system addysg ôl-16, a hynny'n cynnwys goblygiadau ariannol ar gyfer hyfforddiant. Rŷn ni'n argymell y dylai manylion trafodaethau Llywodraeth Cymru gyda rhanddeiliaid ynghylch y costau posibl i'r system addysg ôl-16, ynghyd ag unrhyw fanylion am y goblygiadau ariannol, gael eu cyhoeddi.
Dyna amlinelliad byr o rai o'r prif argymhellion, ond wrth gwrs, mae'r ystod llawn o argymhellion i'w gweld yn adroddiad y pwyllgor. Diolch.