Part of the debate – Senedd Cymru am 7:35 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Mae ein system addysg yng Nghymru wedi'i seilio ar yr egwyddor mai rhieni, nid y wladwriaeth, yw prif addysgwyr eu plant, a bod ysgolion yn gofalu am blant, nid ar eu telerau eu hunain, ond ar ran rhieni, yn lle rhieni a gyda chaniatâd rhieni. Mae'n cydnabod yr egwyddor bwysig iawn hon bod rhieni wedi bod â'r hawl ers tro byd i dynnu eu plant yn ôl o'r ddau bwnc sy'n trafod cwestiynau ynghylch safbwyntiau teuluoedd ar y byd, sef addysg rhyw ac addysg grefyddol. Mae darparu'r hawl i dynnu yn ôl o ran y ddau bwnc hyn hefyd wedi darparu modd i ni ddangos bod y wladwriaeth yn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998. Cyfeiria Erthygl 2 o brotocol 1 at hawl addysg ac mae'n nodi, ac rwy'n dyfynnu, bydd y Wladwriaeth yn parchu hawl rhieni i sicrhau bod addysg ac addysgu o'r fath yn cydymffurfio â'u hargyhoeddiadau crefyddol ac athronyddol eu hunain.
Nawr, mae'n rhaid i mi bwysleisio nad yw pwysigrwydd yr hawl i dynnu yn ôl yn amlwg yn ei ddefnydd aml, ond yn hytrach ei ddefnydd posibl. Mae bodolaeth yr hawl i dynnu yn ôl yn atgoffa ysgolion eu bod yn gweithredu yn lle rhieni. Pan fydd plant yn mynd adref ar ddiwedd y dydd, nid ydyn nhw'n derbyn gofal gan rieni sy'n gwasanaethu'r wladwriaeth yn ei lle. Mae'n hanfodol bod rhieni mewn cymdeithas rydd yn cael ymreolaeth sylweddol yn y ffordd y maen nhw'n cyflawni eu cyfrifoldebau fel rhieni i addysgu a magu eu plant.
Mantais arall y defnydd posibl o'r hawl i dynnu yn ôl yw ei fod yn gymhelliant i ysgolion geisio ymgysylltu'n rhagweithiol â rhieni, oherwydd ei fod yn ei gwneud yn ofynnol i arweinwyr ysgolion eistedd a gwrando ar bryderon rhieni er mwyn lleihau'r achosion o dynnu yn ôl. Nawr, wrth gwrs, nid yw'n golygu na allwch chi gymryd rhan yn y math o addysg y mae Jenny ac eraill yn y Siambr hon wedi'i hyrwyddo heddiw ynghylch amddiffyn plant rhag niwed, siarad â nhw ynghylch y ffordd y mae eu cyrff yn gweithio ac o ran yr hyn sy'n breifat ar eu corff a'r hyn nad yw a sut y dylai perthynas weithio. Ond rwy'n credu bod yr egwyddor sylfaenol hon o ysgolion yn gweithredu yn lle rhieni yn gwbl hanfodol.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig atgoffa'r holl Aelodau yn y ddadl hon heddiw fod mwyafrif sylweddol, nid mwyafrif bach yn unig—mwyafrif sylweddol—o ymatebwyr i'r ddau ymgynghoriad y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal ynghylch cynnydd y Bil hwn yn gwrthwynebu dileu'r hawl i dynnu yn ôl o Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Roedd 88.7 y cant syfrdanol o'r ymatebwyr i 'Ein Cenhadaeth Genedlaethol: Cwricwlwm Trawsnewidiol' yn dymuno cadw'r hawl i dynnu yn ôl, ac roedd 60 y cant o'r rhai a ymatebodd i'r ddogfen ymgynghori 'Sicrhau mynediad i'r cwricwlwm llawn' hefyd yn dymuno cadw'r hawl honno i dynnu yn ôl. Ac mae hynny er gwaethaf y ffaith nad oedd yr ail ymgynghoriad, mewn gwirionedd, yn gofyn cwestiwn ynghylch y pwnc yn benodol. Roedd pobl yn dal i ysgrifennu gan ddweud pa mor bwysig ydoedd iddyn nhw. Nawr, cofiwch, rwy'n derbyn nad yw canlyniadau unrhyw ymgynghoriad o reidrwydd yn cynrychioli barn y cyhoedd, ond gadewch i ni fod yn glir ynglŷn â hyn, trwy ddileu yn llwyr yr hawl i dynnu yn ôl, mae'r Gweinidog addysg yn ceisio newid yn sylfaenol y cydbwysedd rhwng hawliau rhieni a hawliau'r wladwriaeth, rhywbeth nad oes gan yr un blaid yn y Senedd hon yng Nghymru fandad ar ei gyfer.
Ac nid dim ond yr hawl i dynnu hynny yn ôl sy'n broblem. Bydd y Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ffydd ddarparu dwy set o gwricwla crefydd, gwerthoedd a moeseg, fel y mae Suzy Davies ac eraill wedi'i ddweud eisoes: y cwricwlwm enwadol a'r cwricwlwm y cytunwyd arno gan y cynghorau ymgynghorol sefydlog sirol lleol, pe gofynnir amdano. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod rhieni, fel y dywedodd Jenny Rathbone, yn gwbl briodol, eisoes yn dewis anfon eu plant i ysgolion eglwysig gan wybod y cwricwlwm crefyddol sy'n cael ei gynnig. Nid yw'r Bil yn gosod unrhyw ofyniad tebyg ar ysgolion nad ydyn nhw'n rhai ffydd, hyd yn oed os nad oes gan rieni ddewis ysgol ffydd leol a'u bod yn dymuno i'w plant fanteisio ar gwricwlwm enwadol. Mae'n ymddangos i mi ei bod yn annheg iawn disgwyl rhywbeth gan ysgol ffydd, pan nad oes yr un disgwyliad i'r cyfeiriad arall hefyd, ac rwyf i yn credu y bydd hynny'n faich enfawr ar ysgolion eglwysig, i ysgolion Catholig ledled y wlad.
Ac yna, yn olaf, mae mater y cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg a gaiff ei gytuno'n lleol. Ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae'r cwricwlwm addysg grefyddol yn cael ei ddatblygu mewn ardaloedd lleol gan gynghorau ymgynghorol sefydlog ar addysg grefyddol, neu CYSAGau, fel y maen nhw'n cael eu galw ar hyn o bryd, ac mae eu haelodaeth yn cael ei phennu'n lleol. Ond mae Bil Llywodraeth Cymru yn ceisio rhoi'r pwerau i newid CYSAGau drwy ganiatáu i grwpiau anghrefyddol neu hyd yn oed grwpiau gwrth-grefyddol ymuno â'r pwyllgorau hynny. Mae hynny'n galluogi'r potensial i ymgorffori gwerthoedd gwrth-grefyddol mewn cwricwla lleol a'u haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth yng Nghymru. Bydd hyn yn lleihau llais cymunedau ffydd ledled Cymru ac, yn anffodus, nid yw hynny'n rhywbeth yr wyf i'n fodlon ei wneud. A dyna pam y byddaf i'n pleidleisio yn erbyn cynnydd y Bil hwn heddiw. Mae ein system eisoes yn gweithio'n dda, ac rwy'n credu y dylai hynny gael ei chynnal.