Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Llywydd, rwy'n credu ei bod hi'n deg i mi dynnu sylw at y ffaith fod Cymru, fel y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei ddweud, ar y lefel uchaf o goronafeirws yn y Deyrnas Unedig heddiw. Ar wahanol adegau, mae pob un o'r pedair gwlad wedi bod yn y sefyllfa honno. Roedd Lloegr ynddi yn gynharach yn yr haf, roedd Gogledd Iwerddon yn y sefyllfa honno ychydig wythnosau yn ôl, mae'r Alban wedi cael yr un profiad o ran stribed y canolbarth. Felly, mae hwn yn batrwm sy'n esblygu lle mae cynnydd sydyn i nifer yr achosion yn digwydd mewn gwahanol leoedd.
O ran capasiti yn y gwasanaeth iechyd, ceir dau fath o gapasiti yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw. Ceir capasiti ffisegol o ran nifer y gwelyau: mae 16 y cant o welyau acíwt yn GIG Cymru nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio heddiw. Felly, mae capasiti ffisegol yn cael ei ymestyn, ond nid yw'n cael ei ymestyn i'r pwynt o dorri. Y capasiti arall yr ydym ni'n sôn amdano yw staff, a dyna lle mae'r anawsterau presennol ar eu mwyaf difrifol yn fy marn i. Mae gennym ni'r nifer uchaf o staff ar unrhyw adeg yn ystod eleni sy'n hunanynysu ac am resymau eraill ddim ar gael i fod yn y gwaith; 1,500 yn fwy o bobl yr wythnos diwethaf nag oedd yn wir ym mis Medi. A'r broblem a wynebwyd mewn rhai rhannau o'r GIG, a'r rheswm pam mae rhai triniaethau nad ydynt yn rhai brys yn cael eu gohirio, yw oherwydd nad oes gennym ni staff ar gael i barhau â phopeth y mae'r gwasanaeth iechyd eisiau ei wneud, ac rydym ni'n gorfod canolbwyntio'r adnoddau staff sydd gennym ni ar y pethau mwyaf brys hynny, gan gynnwys darparu ar gyfer y nifer gynyddol o bobl sy'n dioddef o goronafeirws. Felly, rydym ni'n dibynnu ar ymgysylltiad rheolaidd â'n holl fyrddau iechyd, i edrych ar allu'r system i barhau i wneud pethau heblaw coronafeirws, ac mae hynny yn amrywio o un bwrdd iechyd i'r llall ar hyn o bryd, ond mae'n ymgysylltiad dyddiol sydd gennym ni gyda nhw i wneud yn siŵr, cyn belled â phosibl, bod y gwasanaeth iechyd yn gwneud yr holl bethau y byddem ni i gyd eisiau iddo eu gwneud.
O ran y llythyr ar gyd-gymorth, wrth gwrs, byddaf yn ymateb iddo, gan gymeradwyo eto yr egwyddor o gyd-gymorth sydd wedi bod yno drwy'r coronafeirws. Mae Cymru wedi cyflenwi 11 miliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol i GIG Lloegr yn ystod yr argyfwng hwn yn rhan o'n cyd-gymorth, ac mae'r llythyr a gefais heddiw yn ailddatgan hynny, ac rwy'n hapus iawn i'w gymeradwyo unwaith eto.