Brechiadau COVID-19

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 15 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:05, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Yn syth ar ôl i frechlyn Pfizer/BioNTech gael ei gymeradwyo yn rheoleiddiol, dosbarthodd GIG Cymru dros 4,000 o ddosau a'u rhoi i bobl o fewn y 48 awr cyntaf iddo fod ar gael. Mae gwaith modelu gweithlu manwl ar y gweill, cyn i frechlynnau dilynol gael eu cymeradwyo yn rheoleiddiol. Mae GIG Cymru wedi paratoi ac yn barod ar gyfer y dasg sydd o'n blaenau.