Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 15 Rhagfyr 2020.
Wel, Llywydd, gallaf roi sicrwydd i Nick Ramsay ar y pwynt olaf yna bod trafodaethau, wrth gwrs, yn parhau gydag Aneurin Bevan ynghylch unrhyw gymorth cydfuddiannol y gellir ei ddarparu neu unrhyw fesurau pellach y gellir eu cymryd i gynorthwyo'r ysbytai yn y rhan honno o Gymru, sydd o dan y straen mwyaf, o gofio nifer y bobl yn y rhan honno o Gymru sy'n dioddef o'r coronafeirws.
O ran brechu, dywedaf wrth Nick Ramsay mai'r dull yr ydym ni wedi ei ddefnyddio yng Nghymru yw cysylltu â phob un o'r pedwar proffesiwn contractwyr—felly, nid meddygon teulu yn unig, ond hefyd fferyllwyr, optometryddion a deintyddion—i weld pa gyfraniad y gallan nhw ei wneud at raglen frechu torfol, oherwydd mae'r rheini i gyd yn broffesiynau lle mae pobl yn rhoi pigiadau a mathau eraill o ymyrraeth glinigol bob dydd. Cefais fy nghalonogi yn fawr ddoe o weld yr ymatebion cadarnhaol iawn yr ydym ni wedi eu cael gan bob un o'r pedwar proffesiwn hynny—pob un ohonyn nhw'n cynnig bod yn rhan o raglen frechu torfol. Rwy'n credu y bydd hynny yn rhoi cydnerthedd ychwanegol i ni yma yng Nghymru, yn ogystal â gallu tynnu amrywiaeth ehangach o weithwyr clinigol proffesiynol profiadol i mewn sy'n gallu rhoi'r brechiad yn ddiogel. Bydd hynny weithiau'n golygu gofyn i bobl sydd wedi ymddeol yn ddiweddar ddod yn ôl a bod yn rhan o'r ymdrech honno, ac rwy'n credu bod hynny'n synhwyrol iawn hefyd. Ond rwy'n credu, yng Nghymru, ein bod ni'n manteisio ar yr amrywiaeth o weithwyr gofal sylfaenol proffesiynol sydd gennym ni sy'n barod i wneud cyfraniad. Rydym ni'n gwybod bod fferyllwyr yn rhoi brechiadau rhag y ffliw mewn niferoedd cynyddol bob blwyddyn yng Nghymru, ac mae gan optometryddion a deintyddion sgiliau, profiadau a galluoedd y maent hwythau hefyd yn barod i'w cyfrannu at yr ymdrech honno, a dyna sut yr ydym ni'n cynllunio dyfodol ein rhaglen frechu yng Nghymru.