Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 15 Rhagfyr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:02, 15 Rhagfyr 2020

(Cyfieithwyd)

Nid oes angen i mi ddweud wrthych chi am werth cyffredinoliaeth gynyddol; diben cyffredinoliaeth yw eich bod chi'n sicrhau bryd hynny bod pawb sydd ei angen yn ei gael. O ran eich pwynt am adnoddau cyfyngedig, mae angen i ni fod yn ddeallus, felly mae angen polisïau sy'n cyflawni mwy nag un amcan arnom ni. Ac felly gallwch weld, gyda phrydau ysgol am ddim i bawb, os byddwch chi'n ei gysylltu, er enghraifft, â'r economi sylfaenol—pryd sylweddol wedi'i gynhyrchu o fewn y filltir sgwâr, y cyfnod sylfaen a'r economi sylfaenol, gan sicrhau caffael lleol, plant yn dysgu o ble y daw eu bwyd ar yr un pryd â helpu'r busnesau cynhyrchu bwyd lleol a gafodd eu taro'n galed iawn gan y pandemig a, phwy a ŵyr, efallai gan Brexit 'dim cytundeb'—siawns mai dyna'r math o bolisi deallus sydd ei angen arnom ni, Prif Weinidog, sy'n darparu i fodel ataliol arbedion hyd yn oed o safbwynt ariannol oherwydd y canlyniadau iechyd ac addysgol gwell i'r plant dan sylw ac, yn wir, eu cyfleoedd bywyd economaidd, ond sydd hefyd yn ei wneud mewn ffordd gyfannol i'r economi, i gael gwell amgylchedd, i gael gwell iechyd ar yr un pryd.